Mae ffioedd mynediad yn cael eu hystyried ar gyfer amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.

Yn ôl Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, dyma’r dewis olaf wrth i’r sector wynebu trafferthion ariannol.

Er hynny, dywed nad yw’n rywbeth mae hi eisiau gorfod ei wneud a’i bod hi’n gobeithio osgoi gorfod codi tâl yn gyfangwbl.

“Rwy’ wedi dweud wrth yr Amgueddfa Genedlaethol fod angen iddyn nhw fynd i ffwrdd i archwilio hynny [ffioedd mynediad],” meddai.

“Rydym wedi cael y sgwrs hon gyda’n holl gyrff, hyd braich, ynghylch sut y gallan nhw gynhyrchu mwy o incwm.

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyflogi rhywun yn uniongyrchol i arwain ar le gallan nhw gynhyrchu incwm ychwanegol.”

Ymysg y cyrff hyd braich eraill sydd yn disgyn o dan gyfrifoldebau’r Adran Ddiwylliant mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Chwaraeon Cymru a Cadw.

Dywed Dawn Bowden fod mynediad am ddim i’r Amgueddfa Genedlaethol wedi bod yn “un o’r tlysau yn y goron” yng Nghymru, ac na fyddai hi hyd yn oed yn ystyried codi tâl oni bai eu bod nhw’n wynebu “sefyllfa argyfyngus” yn dilyn y Gyllideb.

“Dydw i ddim yn dweud mai dyna lle byddwn ni yn y diwedd, ond ni fyddai’n gyfrifol i mi ddiystyru hynny ar hyn o bryd nac awgrymu wrth yr Amgueddfa na ddylen nhw fod yn archwilio hynny,” meddai.

Fodd bynnag, dywed ei bod hi’n gobeithio y byddai system o eithriadau yn eu lle pe bai tâl yn cael ei godi, er mwyn sicrhau tegwch.

Costau cynnal a chadw

Cododd llefarydd diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig bryderon yn sgil effaith y newidiadau ar niferoedd ymwelwyr.

“Rhaid i ffioedd mynediad amgueddfeydd fod y dewis olaf oherwydd byddant yn effeithio ar bresenoldeb mewn safleoedd ledled Cymru,” meddai Tom Giffard.

“Mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru gamu i fyny a chefnogi’r sector, i sicrhau nad oes angen ystyried mesur o’r fath,” meddai.

Fodd bynnag, yn ôl Dawn Bowden, does dim digon o gyllideb i gefnogi’r sector yn llawn gan fod rhaid gwario arian er mwyn atgyweirio gweithiau celf hefyd.

“Dydyn ni ddim yn rhedeg i ffwrdd o’r ffaith ein bod ni’n delio ag adeiladau hen iawn sydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio sylweddol,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni ddiogelu’r casgliadau cenedlaethol hynny, ond mae’r graddau y gallwn eu cefnogi yn gyfyngedig iawn, iawn.

“Rydyn ni’n cael sgyrsiau gyda nhw’n barhaus ynglŷn â beth yw’r heriau, beth sydd angen iddyn nhw ei wneud, ac rydyn ni nawr yn gorfod cael y sgyrsiau hynny ynglŷn â’r ffynonellau cyllid eraill allai fod ar gael.”