“Bydd rhaid inni ddangos lle blaenllaw llenyddiaeth yn hanes a diwylliant yr ardal… digon hawdd gwneud hynny a’r ardal wedi bod yn un llengar ers canrifoedd ac yn parhau i fod.”

Cafodd y cais gan Gyngor Tref Aberystwyth i enwebu’r dref yn Ddinas Llên UNESCO ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn 2022.

Lansiodd UNESCO gynllun ‘Dinasoedd Llên’ fel rhan o rwydwaith Dinasoedd Creadigol yn rhan o ymgyrch i ddathlu a gwerthfawrogi llenyddiaeth.

Caeredin oedd ‘Dinas Llên’ gyntaf yn y byd yn 2004, ac mae Dulyn (Iwerddon), Durban (De Affrica) a Beirut (Libanus) hefyd wedi derbyn y teitl ers hynny.

Erbyn hyn, mae 53 o ddinasoedd mewn 39 o wledydd ar draws chwe chyfandir yn ‘Ddinas Llên’ UNESCO, ond does yna’r un yng Nghymru.

Y gobaith, felly, yw mai Aberystwyth a Cheredigion fydd ‘Dinas Llên’ gynta’r wlad.

Nid dinas yw Aberystwyth

Er nad dinas swyddogol yw Aberystwyth fel y cyfryw, dydy ‘Dinas Llên’ UNESCO ddim yn dilyn rheolau arferol gwladwriaethol.

Diffinia UNESCO ddinas fel ardal sydd â phrifysgol ynddi, ac mae dwy brifysgol yng Ngheredigion, sef Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Drindod Dewi Sant yn Llanbed.

Mae Ceredigion gyfan, felly, yn rhan o’r ymgyrch sydd heb arian ynghlwm wrthi.

Cydnabyddiaeth a bri

Yn ôl yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhifysgol Aberystwyth, “mae’n rhaid mynd amdani gydag agwedd gadarnhaol”.

Creda fod gan gais Aberystwyth “gyfle da i lwyddo”.

Atega’r farn y byddai ennill statws Dinas Llên yn codi proffil ac yn llwyfan i broffil llenyddiaeth Cymru’n rhyngwladol, ac y byddai’n sicrhau bod Aberystwyth a Cheredigion yn dod yn rhan o “rwydwaith byd-eang”.

Yn ôl Eurig Salisbury, ei chydweithiwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ymgyrch Aberystwyth yn un “gyffrous ac uchelgeisiol”.

“Bydd gan Aber gais cryf,” meddai.

“Bydd yr hyn y byddwn wedi’i gyflawni ar y daith yn werthfawr iawn.”

Ac yntau’n fardd, esbonia fod “rhoi llwyfan trefol i farddoniaeth Gymraeg yn bwysig… gan fod tuedd i feddwl fod barddoniaeth yn beth gwledig iawn yng Nghymru”.

“Roedd Guto’r Glyn, wedi’r cyfan, yn fardd y dref yng Nghroeswallt dros bum can mlynedd yn ôl,” meddai.

“Heddiw, mae dathlu’r ffaith fod lle i farddoniaeth Gymraeg yn ein trefi, yn ogystal â’n pentrefi, yn beth da iawn.”

Y tîm gwirfoddol

Mae pwyllgor gwaith yr ymgyrch Dinas Llên yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Llyfrau Cymru, ynghyd â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Wrth siarad â golwg360, dywed Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau, fod ceisio statws Dinas Llên i Aberystwyth yn “gam allweddol yn hanes llenyddiaeth Cymru, gan ei fod yn darparu cydnabyddiaeth fod yna rywbeth arbennig am Gymru yn gyffredinol”.

“Er mai Aberystwyth a Cheredigion fyddai’n cael y bathodyn, mae am Gymru yn y diwedd,” meddai.

“Gall hyn drawsnewid sut y caiff Cymru ei gweld gan eraill.”

A hithau’n Almaenes sydd wedi dysgu Cymraeg, noda nad oedd hi’n ymwybodol o hanes Cymru nac yn gwerthfawrogi Cymru yn ei hanfod wrth gyrraedd y wlad, ac felly bod “cydnabyddiaeth ryngwladol yn bwysig i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig”.

Ychwanega y byddai derbyn y teitl yn hynod o gadarnhaol, gan wneud i bobol ystyried eu treftadaeth a’r diwylliant llenyddol.

Hefyd, gall ddenu mwy o fyfrwyr i’r brifysgol sydd wedi’i lleoli mewn ‘Dinas Llên’, meddai.

Yn dilyn grant gan ARFOR, mae’r ymgyrch bellach yn chwilio am gydlynydd i ymuno â’r tim, gyda’r dyddiad cau ddiwedd Ionawr.

Prif bwrpas y cydlynydd fydd mapio’r digwyddiadau hanfodol yn yr ardal – o eisteddfodau i wyliau lleol, o farddoniaeth i weithgareddau mewn ysgolion a chlybiau, a’u cofnodi.

Y meini prawf

Bydd rhaid i’r cais, gaiff ei gyflwyno ym mis Ebrill 2025, brofi bod llenyddiaeth yn rhan annatod o’r dref a’r sir, gan roi pwyslais ar awduron, llenorion, diwydiant gweisg a chyhoeddwyr yr ardal.

Ymhlith meini prawf amrywiol a phendant UNESCO mae angen:

  • dangos ansawdd, maint ac amrywiaeth cyhoeddi yn y ddinas
  • profi bod llenyddiaeth drama a/neu farddoniaeth yn chwarae rhan bwysig ym mywyd y ddinas
  • cynnal digwyddiadau a gwyliau llenyddol sy’n hyrwyddo llenyddiaeth gartref a thramor
  • dangos bod gan Aberystwyth lyfrgelloedd, siopau llyfrau a chanolfannau diwylliannol cyhoeddus neu breifat sy’n cadw, yn hyrwyddo ac yn lledaenu llenyddiaeth gartref a thramor
  • cyfraniad gan y sector cyhoeddi at gyfieithu gweithiau llenyddol o ieithoedd cenedlaethol amrywiol a llenyddiaeth dramor.

Mae’r dref eisoes wedi enwi dros 300 o lenorion sy’n gysylltiedig ag Aberystwyth, a bydd modd nodi hyn yn y cais.

Hefyd, bydd yn rhaid i’r dref a’r ardal brofi’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn enw llenyddiaeth dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Wrth drafod y cais, dywed Helgard Krause fod “angen i’r cais fod yn un cryf a chlyfar”, ond eu bod nhw’n “hyderus”.