Mae Cyngor Llyfrau Cymru’n dweud mai prosiect Caru Darllen yw’r “prosiect rhoi llyfrau mwyaf uchelgeisiol” iddyn nhw ei reoli erioed.
Prosiect yw hwn sydd â’r nod o roi hwb i ddarllenwyr ifainc sy’n caru darllen drwy roi llyfr i’w gadw i bob plentyn yn ysgolion gwladol Cymru, yn ogystal â darparu llyfrau ychwanegol ar gyfer llyfrgell pob ysgol.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach – gyda 438,245 o lyfrau a 168,870 o docynnau llyfrau wedi’u darparu i 1,490 o ysgolion – cafodd y prosiect ei gwblhau ym mis Rhagfyr.
Mae ysgolion, banciau bwyd, cyhoeddwyr, siopau llyfrau a Chyngor Llyfrau Cymru wedi cydweithio i gyflawni’r rhaglen.
Dathlu pŵer darllen
Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd wedi rhannu rhai o ganfyddiadau adroddiad gwerthuso’r prosiect sydd, meddai’r corff, “wedi dangos gwahaniaeth mor bwysig mae’r cynllun hwn wedi’i wneud i blant a phobol ifanc ledled Cymru”.
Pwrpas y cynllun oedd annog plant a phobol ifanc i fwynhau darllen er pleser, a sicrhau bod pob darllenwr yn cael yr un cyfle i ddewis o amrywiaeth eang o deitlau atyniadol a safonol.
Mae’n hysbys fod darllen er pleser yn cynyddu lles ac empathi, yn datblygu’r dychymyg ac yn cefnogi cyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â darparu cyfle i ystyried syniadau a phrofiadau newydd.
“Mae darllen yn agor y drws i sgiliau newydd, yn hybu dychymyg ac yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad plentyn,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
“Mae’r ymgyrch Caru Darllen Ysgolion yn dathlu pŵer darllen, ac yn cefnogi dysgwyr, ysgolion, rhieni a gofalwyr i’w annog a’i fwynhau.
“Rydym am sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i elwa ar ddarllen ac mae’n wych gweld yr ymgyrch hon yn helpu i danio angerdd gyda deunydd o ansawdd uchel.”
Derbyniodd pob plentyn yn ysgolion cynradd gwladol Cymru lyfr yn rhodd, cafodd detholiad o lyfrau eu hanfon i ysgolion er mwyn i’r disgyblion gael dewis o’u plith, cafodd tocyn llyfr gwerth £7 ei roi i bob dysgwr unarddeg i 16 oed yn ysgolion uwchradd gwladol Cymru, a chafodd y tocynnau eu dosbarthu i’r ysgolion i’w rhannu ymhlith y disgyblion.
Gweithiodd rhai ysgolion mewn partneriaeth â siopau llyfrau lleol i drefnu ffair lyfrau neu i ymweld â siop lyfrau er mwyn helpu myfyrwyr i brynu llyfr.
Derbyniodd pob ysgol wladol becyn o 50 o lyfrau yn dathlu amrywiaeth, i’w rhoi yn llyfrgell yr ysgol neu’r dosbarth.
Cafodd 66,775 o lyfrau eu dosbarthu i fanciau bwyd a grwpiau cymunedol er mwyn i ddefnyddwyr y gwasanaethau ddewis llyfrau yn ystod eu hymweliadau, gyda llyfrau wedi’u rhoi yn 2022 a 2023 yn barod at y Nadolig.
Arolwg o ysgolion cynradd
Daeth 231 o ymatebion unigol i’r arolwg gan 226 o ysgolion cynradd, yn ogystal â grwpiau trafod.
Mae’r adborth i gyd yn cynnwys adborth gan staff yr ysgol, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.
Roedd pob un o’r ysgolion yn cytuno bod y llyfrau o safon uchel ac o ansawdd da, ac yn bwysicaf oll dywedodd 95% fod y plant wedi hoffi’r dewis o lyfrau.
“Cawsom brynhawn o bori drwy’r llyfrau. Trefnwyd y llyfrau gan roi sachau eistedd o amgylch pob arddangosfa er mwyn i’r plant allu symud o gwmpas a dewis llyfr ar ôl edrych arno, darllen y broliant, darllen y dudalen gyntaf ac ati.”
Cynrychiolydd ysgol gynradd
Manteisiodd llawer o ysgolion ar y cyfle i wneud y rhoddion llyfrau yn ddigwyddiad arbennig, er mwyn helpu’r plant i edrych ar y detholiad oedd ar gael a dewis pa lyfr roedden nhw am ei gadw.
Cynigiodd un ysgol ‘brynhawn o bori’, a chafodd un arall ‘bicnic llyfrau’.
Cyfunodd rhai ysgolion yr achlysur â gweithgareddau eraill fel Dydd Gŵyl Dewi neu Ddiwrnod y Llyfr.
“Mae rhai o’n plant wedi dweud mai dyma’r llyfr cyntaf iddyn nhw fod yn berchen arno erioed y gallen nhw ei gadw ac na fyddai’n rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl. Roedd yn hyfryd gweld plant yn cario eu llyfrau i’r iard i’w darllen amser egwyl a pha mor falch oedden nhw o fynd â nhw gartref a dweud eu bod yn ‘llyfrau i’w cadw am byth’.”
Cynrychiolydd ysgol gynradd
Roedd dros 95% o ysgolion yn cytuno bod y rhaglen wedi cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddarllen er pleser, a dywedodd bron i 80% fod y llyfrau wedi annog darllen gartref.
“Roedd y rhieni yn ddiolchgar iawn am y llyfrau. Does gan lawer o’n plant ddim llyfrau gartref felly roedden nhw wrth eu bodd yn cael llyfr i fynd adref gyda nhw.”
Cynrychiolydd ysgol gynradd, arolwg
Arolwg o ysgolion uwchradd
Daeth 68 o ymatebion unigol i’r arolwg gan 61 o ysgolion uwchradd, yn ogystal â grwpiau trafod, gan gynnwys staff, dysgwyr a rhieni/gofalwyr.
Cafodd tocyn llyfr gwerth £7 ei roi i ddysgwyr hŷn mewn ysgolion uwchradd i’w galluogi i ddewis unrhyw lyfr naill ai trwy fynd i siop lyfrau neu wrth i siop lyfrau ddod i’r ysgol.
Dywed y Cyngor Llyfrau eu bod nhw’n gobeithio y byddai’r dull hwn yn meithrin perthynas rhwng siopau llyfrau ac ysgolion, yn ogystal â chyflwyno’r siop lyfrau leol i’r dysgwyr.
Dywedodd dros 90% o’r ymatebwyr o ysgolion uwchradd fod dysgwyr yn gwerthfawrogi derbyn eu tocynnau llyfrau, ac roedd 88% yn cytuno bod y tocynnau llyfrau gafodd eu darparu wedi annog darllen gartref.
“Mae’n hwb gwych i’r disgyblion. Fe wnes i fwynhau gweld ymateb a phleser y disgyblion o ddewis a ‘phrynu’ eu llyfr eu hunain. Roedd yn rhaid darbwyllo rhai disgyblion bod y cynllun yn wir a’u bod nhw wir yn gallu cael llyfr iddyn nhw eu hunain.”
Cynrychiolydd ysgol uwchradd
Roedd pob dysgwr ysgol uwchradd gymerodd ran yn y gwerthusiad yn teimlo bod y rhaglen wedi cynyddu eu hawydd i ddarllen er pleser, a’u bod nhw bellach yn darllen llawer mwy ar ôl cymryd rhan yn y cynllun, meddai’r Cyngor Llyfrau.
Fe ddaeth i’r amlwg fod galw am lyfrau Cymraeg hefyd, a dywedodd dysgwyr eu bod nhw’n fwy tebygol o ddarllen llyfrau Cymraeg ers cymryd rhan yn y rhaglen, gan ddweud bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn darllen o ganlyniad i’r fenter.
“Oedd rhai llyfrau Cymraeg oedd angen ymladd drost achos oedd llwyth o bobol eisiau eu darllen!”
Dysgwr mewn grŵp trafod mewn ysgol uwchradd
Roedd 95% yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod y rhaglen wedi cynyddu’r cyfleoedd i ddarllen er pleser, a 95% yn cytuno bod y rhaglen yn gwella mynediad at lyfrau.
Cydweithio â banciau bwyd
Cymerodd tri banc bwyd ran yn yr arolwg i roi adborth, ac roedd pob un o’r tri wedi dod o hyd i ffyrdd gwahanol o rannu’r llyfrau gyda’u defnyddwyr gwasanaeth.
Er enghraifft, roedd yna arddangosfeydd gyda chyfle i bori, a chafodd llyfrau eu rhannu gydag ysgolion lleol.
Roedd pob un o’r banciau bwyd wnaeth ymateb yn nodi canlyniadau cadarnhaol gallu rhoi llyfr am ddim i deuluoedd ar gyfer eu plentyn neu blant.
“Roedd yn hyfryd gweld plant yn mynd oddi yma gyda’r llyfrau ac yn eu trin fel trysor.”
Staff/gwirfoddolwr banc bwyd
Cafodd y llyfrau eu disgrifio fel rhai ‘hardd’, ‘o ansawdd uchel’ gyda dewis ar gyfer pob oedran.
Nododd cyfranogwyr hefyd fod cael llyfrau dwyieithog yn fuddiol i deuluoedd.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau, a thrwy gyfres o erthyglau blog gan enwogion yn cynnwys y bêl-droedwraig Jess Fishlock, y ddigrifwraig a chyflwynydd Mel Owen, y cyn-chwaraewr rygbi James Hook ac eraill.