Cafodd rhaglenni S4C eu gwylio fwy nag erioed ar BBC iPlayer yn ystod wythnos gyntaf 2024.

Roedd bron i 350,000 o sesiynau gwylio yn y cyfnod rhwng Ionawr 1-7.

O gymharu â’r un cyfnod y llynedd, fe fu cynnydd o 22% yn nifer y rhai fu’n gwylio rhaglenni S4C ar BBC iPlayer, a chynnydd o 22% ar S4C Clic.

Y rhaglenni ddenodd y nifer fwyaf o wylwyr oedd y gêm bêl-droed rhwng Amwythig a Wrecsam, a’r gêm ddarbi rhwng y Scarlets a’r Dreigiau.

Roedd Bariau, drama garchar newydd S4C, ymhlith y rhaglenni wnaeth berfformio’n dda hefyd.

‘Strategaeth yn gweithio’

Yn ôl Geraint Evans, cyd-Brif Weithredwr dros dro S4C, mae’r ystadegau’n dangos bod strategaeth aml-blatfform y sianel yn llwyddo.

“Wrth i arferion gwylio newid, yr her i S4C yw sicrhau bod ein cynnwys ar gael i wylwyr ar ba bynnag blatfform sydd fwyaf addas iddyn nhw,” meddai.

“Ac yn wyneb yr holl gystadleuaeth sydd ma’s yna, bod ein rhaglenni ni’n creu sŵn ac yn gwneud argraff.

“Drwy ein partneriaeth gyda’r BBC, rydyn ni nawr yn anelu i gyfoethogi’r profiad gwylio ar yr iPlayer, tra ar yr un pryd yn ceisio sicrhau bod S4C Clic ar gael ar ragor o blatfformau gwylio.

“Ac mae’n rhaid diolch i staff S4C a’n partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru am y dyfeisgarwch a’r creadigrwydd sy’n denu cynulleidfaoedd amrywiol aton ni.”