Mae cyhoeddwr Cymraeg o Aberystwyth wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Bett, sy’n cydnabod arloesedd a rhagoriaeth mewn technoleg addysg.

Fe fydd cwmni Atebol yn cael ei gydnabod am y gamp yma yn ystod sioe ‘Bett UK 2024’, sef sioe Technoleg Addysg fwyaf y byd, fydd yn digwydd yng Nghanolfan ExCeL yn Llundain rhwng Ionawr 24 a 26.

Mae cwmni Atebol wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori, sef ‘Ap Cynnwys Digidol Cynradd am Ddim neu Adnodd Addysgol Agored’, ac ‘Adnodd Addysgol i Rieni neu Ddysgu yn y Cartref’ am yr ap addysgol Ffrindiau Bach.

Y cwmnïau eraill yn y categori cyntaf yw Canva – Canva for Education, Centre for Literacy in Primary Education – National Poetry Centre for Primary Schools, Earth Cubs, Explorify – STEM Learning/Primary Science Teaching Trust, Literacy Tree, Prowise – Tessa: The Innovative PA within Prowise Presenter, ViewSonic – ViewSonic Originals, a White Rose Education – White Rose Science.

Y cwmnïau eraill sydd wedi cyrraedd yr ail gategori am ‘Adnodd Addysgu yn y Cartref’ yw 3P Learning – Reading Eggs, EdPlace, Key Stages Online – KS2 Consolidator, Komodo Learning – Komodo English, Learning with Parents – Reading with Parents, a Mindojo – Plingo.

Bydd enwau’r prif enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni Gwobrau Bett, sef uchafbwynt y gynhadledd ‘Bett UK 2024’, fydd yn cael ei chynnal ar Ionawr 24 yn y Brewery yn Llundain.

“Llongyfarchiadau mawr i Atebol,” meddai Charlotte Kenny, Pennaeth Ymgysylltu â Chleientiaid Bett.

“Dylen nhw fod yn hynod falch o’r cyfraniadau maen nhw’n eu gwneud i weddnewid y dirwedd addysg trwy eu hatebion arloesol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu eu gwaith yn seremoni Gwobrau Bett, sy’n mynd i fod yn noson wirioneddol gofiadwy.”

‘Wrth ein bodd’

Ap sydd wedi’i gynllunio i helpu plant tair i bump oed i ddysgu’r wyddor Gymraeg yw Ffrindiau Bach.

Ers i’r cwmni brynu llyfrau’r wasg addysgol CAA oddi ar Brifysgol Aberystwyth yn 2020, Atebol bellach yw cyhoeddwr addysgol Cymraeg mwyaf Cymru.

Mae’r cwmni’n creu amrywiaeth eang o adnoddau dwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hefyd yn creu gemau dysgu ar-lein.

Atebol yw’r datblygwr mwyaf o ran apiau Cymraeg.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau yma yng Ngwobrau Bett eleni,” meddai Owain Saunders-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Atebol.

“Mae cael ein cydnabod yn dyst i benderfyniad a chreadigrwydd ein tîm ac yn amlygu ein cenhadaeth i integreiddio offer digidol yn y profiad dysgu ac addysgu.

“Mae hefyd yn wych i ni gynrychioli Cymru a’r Gymraeg yn y gymuned fyd-eang yma o arweinwyr Technoleg Addysg sydd mor ymroddedig i ddatblygu atebion arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau addysgwyr a myfyrwyr.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd ar y rhestr fer, a dymuno pob lwc iddyn nhw yn y Gwobrau eleni.”

Sali Mali a Sebra

Yn 2021, fe brynodd Atebol, ar y cyd â gwasg Y Lolfa, hen stoc lyfrau Gwasg Gomer, ar ôl i Gomer roi’r gorau i gyhoeddi llyfrau, a thrwy hynny gymryd cyfrifoldeb dros glasuron enwog Sali Mali.

Fis Hydref diwethaf, sefydlodd Atebol wasgnod mewnol, Sebra, er mwyn cyhoeddi ffuglen a llyfrau ffeithiol i oedolion.