Ydych chi’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a / neu ganeuon? Ydych chi’n mwynhau trafod y storïau o fewn lyrics a/neu rannu eich storïau eich hunain am atgofion sydd genych o wrando ar rai caneuon?

Hoffech chi fynychu gweithdy lle fedrwch chi rannu’r storïau hyn hefo eraill, ac wedyn dysgu ychydig mwy am sut i sgwennu eich lyrics eich hunain?

Ac yn olaf, hoffech chi wneud hyn i gyd am ddim draw yn y Stiwt, Rhosllannerchrugog? Os felly, bachwch eich lle rŵan yn y gweithdy hwn, ac ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl a chreadigrwydd!

Y gweithdy

Wrth i’r flwyddyn newydd wawrio, mae canolfan y Stiwt wrthi’n paratoi i groesawu grŵp o ddarpar lyricists i weithdy ysgrifennu arbennig. Mae’r gweithdy’n rhan o brosiect newydd ‘Cylchgrawn Cwlwm’ ac mae wedi’i gyllido gan Gyngor Llyfrau Cymru drwy grant cynulleidfaoedd newydd.

Manylion

Pryd? Ionawr 22, 10.30yb-3yp

Ble?  Y Stiwt, Broad Street, Rhosllannerchrugog, Wrecsam, LL14 1RB

Fe sylwch fod y gweithdy yn ystod yr wythnos yn hytrach nag ar y penwythnos, ac mae e yn ystod y dydd hefyd, yn benodol yn ystod oriau ysgol, yn hytrach na gyda’r nos, ac mae hyn yn fwriadol er mwyn ceisio bod yn hygyrch i garfan benodol o bobol.

Cyfle i ddarpar ysgrifenwyr, a hygyrchedd

Bwriad penna’r gweithdy hwn yw rhoi’r cyfle i bobol sydd efallai heb gael y cyfle i roi cynnig ar sgwennu hyd yma. Mi all hyn fod am amryw o resymau – megis salwch, tlodi, diffyg addysg yn ifanc, cyfrifioldebau gofalu a.y.b.

Cafodd oriau ysgol eu dewis er mwyn rhoi’r cyfle i rai grwpiau megis rhieni a/neu neiniau a theidiau, sydd fel arall yn gwarchod plant. Dyma gyfle i fynychu gweithdy, felly, yn ystod y ffenest amser sydd gan y garfan hon yn (eithaf) rhydd.

Cafodd ardal Rhosllannerchrugog ei dewis gan ei bod yn un o’r ardaloedd mwyaf difrientiedig yn Ninas-Sir Wrecsam, yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf.

Mi fydd natur y gweithdy yn hygyrch i garfan eang o bobol, gan ei bod yn dechrau yn y bore drwy drafod cerddoriaeth a chaneuon poblogaidd; yn hynny o beth, byddwn yn treulio hanner y gweithdy yn creu mixtape, gan chwarae caneuon a’u trafod fel grŵp.

Chwarae caneuon

Medrwch chi ddŵad â recordiau feinyl, casetiau, CDs, eu chwarae ar eich ffôn, dod â lyrics ac enw’r gân, neu gofynnwch i ni ymchwilio ar eich rhan chi, gan esbonio pam rydych chi wedi ei dewis a beth mae eich cân neu gerddoriaeth yn ei olygu i chi. Bydd mwy o amser dros ginio (blasus a phriodol i unrhyw anghenion deiet, am ddim!).

Fydd modd chwarae feinal

Yn y prynhawn, bydd gweithdy i drafod natur caneuon – cytgan neu beidio, odli neu beidio, cyflythrennu, atseiniad, agwedd storïol, bersonol v trosiadol neu gyffredinol, camacennu, y ffiniau rhwng caneuon a barddoniaeth ar lafar, a llawer iawn mwy.

Felly, boed eich cân gan ABBA neu Emmy Woods, Dolly Parton neu Megan Lee, The Doors neu Daniel Lloyd a Mr Pinc, Joni Mitchell neu Cowbois Rhos Botwnnog, Christina Perri neu Adele, Pink Floyd neu P!nk, Elvis neu The Offspring, Dina Carroll neu Datblygu, dewch draw i rannu eich storïau!

Agwedd hamddenol, heb fod yn uchel-ael

Y peth pwysicaf am y gweithdy hwn yw ei fod yn agored i bawb o bob gallu. Does dim rhaid eich bod chi’n chwarae offeryn, na bod gennych chi unrhyw sgiliau ysgrifennu na phrofiad blaenorol; mae hwn i unrhyw un sydd ar ddechrau’r daith.

Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon hyderus i gyflwyno cân nac i wneud unrhyw waith ysgrifennu, mae hynny’n iawn hefyd! Dewch draw a gwrandewch a chael sgwrs am sut i fynd ati i ddechrau.

Does dim pwysau ar neb sy’n mynychu i gynhyrchu dim byd ar ddiwedd y gweithdy – yr unig nod yw eich bod yn mwynhau ac yn dysgu rhywbeth newydd – neu efallai jyst yn gwneud ffrindiau newydd!

Gwaddol – y cyfle i sgwennu mwy a chyhoeddi

Efallai y gwnaiff y gweithdy eich ysbrydoli, ac y dewch chi o’r Stiwt yn llawn syniadau am gân rydych chi am ei sgwennu. Os felly, bydd cyfle i chi gadw mewn cysylltiad â thîm Cwlwm i ddatblygu’r lyrics, ac yna eu cyhoeddi nhw yng nghylchgrawn Cwlwm maes o law.

Dyma gyfle gwych i chi roi cynnig arni, felly peidiwch ag oedi! Ond mae’n rhaid bwcio ymlaen llaw. Os oes angen help arnoch chi i gadw lle, neu os ydych chi eisiau cael sgwrs ynglŷn a’r gweithdy i benderfynu a ydych chi eisiau dŵad, mae croeso i chi e-bostio.