Mae Angharad Jenkins wedi cyhoeddi ei bod hi’n gadael y band Calan ar ôl pymtheg mlynedd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed y bydd 2024 yn “flwyddyn gyffrous” i’r band, ond na fydd hi’n rhan o’r rheiny.

Ar ôl cyfnod mamolaeth, dywed ei bod hi “wedi dod i sylweddoli pa mor anodd fyddai teithio fel rhiant i blant ifainc”.

Dywed y bu’n “benderfyniad anodd dros ben”, a’r band “wedi chwarae rhan enfawr” yn ei bywyd.

“Mae Calan bron iawn fel teulu i mi,” meddai, gan ychwanegu ei bod hi wedi gwneud “y penderfyniad cywir ar yr adeg yma yn fy mywyd”.

‘Diolchgar iawn’

Wrth ddweud ei bod hi’n “ddiolchgar iawn” am ei chyfnod gyda’r band, mae Angharad Jenkins wedi cadarnhau y bydd hi’n parhau i fod yn artist a cherddor unigol.

“Dw i’n ddiolchgar iawn am yr holl brofiadau mae’r band wedi’u rhoi i mi, ac yn ddiolchgar i Huw Williams am fy nechrau ar y daith wallgof hon fel cerddor llawrydd, dw i’n ei chael hi’n anodd ei osgoi hyd yn oed gyda phlant,” meddai.

“Dw i’n ceisio darganfod mewn gwirionedd a yw’n bosib bod yn fam ac ennill bywoliaeth fel cerddor llawrydd.

“Amser yn unig a ddengys.

“Dw i’n sicr yn dal i greu cerddoriaeth, ac mae llawer o ‘mhrofiadau fel mam wedi cael eu rhoi yn fy mhrosiect creadigol y gallwch chi ei ddilyn.

“Dw i hefyd yn gwneud stwff deuawdau gyda Patrick [Rimes] a Huw Warren.

“Efallai, ryw ddiwrnod, pan fydd yr amser yn iawn, wna i godi’r ffidil eto i chwarae gyda’r band.

“Ond am y tro, efallai y gwela i chi yn y gynulleidfa mewn gig Calan.

“Diwedd cyfnod.

“Diolch i bawb am wneud y pymtheg mlynedd diwetha yn rhai hwylus a chofiadwy!”