Sut mae ymdopi â’r sylw fel actor fydd un o’r pynciau trafod mewn pennod o’r gyfres Taith Bywyd gyda Siân Reese-Williams nos Sul (Ionawr 14).

Dywed cyn-actores yr opera sebon Emmerdale iddi ei chael hi’n anodd yn ystod ei hamser yn actio yn y rhaglen yn sgil yr holl sylw gafodd hi gan y cyhoedd.

Dywed fod rhai gwylwyr yn gwneud sylwadau personol wrth ei gweld hi, a bod hyn wedi cael effaith ar ei hyder.

Yn ystod y rhaglen, fydd yn dechrau am 9 o’r gloch, bydd yr actores yn mynd ar daith i gyfarfod â rhai o’r bobol wnaeth newid ei bywyd a dylanwadu ar ei gyrfa.

Ymunodd hi â chast Emmerdale yn 2008, gan chwarae’r cymeriad Gennie Walker am dros 700 o benodau.

Yn 2012, gwyliodd 8.8m o bobol wrth iddi actio mewn pennod fyw ar ITV.

“Wnes i ffeindio hwnna yn eithaf anodd,” meddai am yr holl sylw roedd hi’n ei gael.

“Roedd e’n struggle i fi.

“Pan wyt ti mewn opera sebon, mae rhyw fath o ownership, achos mae pobol yn gweld ti bob nos.

“Ti yn eu hystafell fyw nhw bob nos, ac mae pobol yn anghofio bo ti’n berson weithiau, ac mae’r pethau mae pobol yn teimlo maen nhw’n gallu dweud wrtha ti bach yn rhy bersonol…

“Ac mae lot o bobol ddim yn neis iawn, ddim yn garedig, ac mae hwnna yn gallu bod yn tricky.

“Roedd y pethau roedd pobol yn dweud amdana i fel ‘unlucky in love’, ‘ugly duckling’… pan wyt ti’n clywed hwnna bob dydd am bum mlynedd, i fi, ga’th hwnna effaith ar hyder fi am sbel, a gymerodd e eitha’ lot o amser i dynnu’n hunan ma’s o hwnna.

“A dal nawr, weithiau mae’r llais negyddol yn pen fi, fi’n gwybod bod e’n dod o’r cyfnod yna.”

Y bobol bwysig yn ei bywyd

Ar y rhaglen, bydd Siân Reese-Williams yn cwrdd ag un o sêr mwyaf Emmerdale ar y pryd, Sammy Winward, oedd yn actio’r rhan Katie Sugden am 14 mlynedd. Daeth y ddwy yn ffrindiau agos.

Yn 2018, cafodd Siân ei chastio fel y brif ran yn y ddrama Craith, gan wneud tair cyfres lwyddiannus i S4C a fersiwn Saesneg o’r enw Hidden i’r BBC.

Cafodd y gyfres ei darlledu ar draws y byd hefyd.

Hefyd yn rhan o’r daith fydd sgwrs gyda’i chwaer, Heledd.

Cafodd Siân Reese-Williams ei magu mewn teulu hapus, gyda’i chwaer, ei brawd Llŷr a’u rhieni, Gill a Jeff.

Cafodd Llŷr diwmor ar yr ymennydd yn 2005, a bu farw yn 2019, ac mae cofio amdano yn holl bwysig i’r teulu.

“Roedd bach o ofn arna i bo fi’n mynd i ffeindio fe’n rili anodd i gofio fe mewn unrhyw ffordd arall na beth oedd e yn y diwedd, achos yn y diwedd, doedd e ddim yn neis,” meddai.

“Ond daeth e ’nôl yn rili glou i fi yr atgofion ohono fe yn ifancach ac yn iach.

“Ni’n siarad amdano fe drwy’r amser… Mae rhywbeth yn atgoffa fi o Llŷr bron bob diwrnod.

“Mae e’n anodd i wneud, ond lot o’r amser, a fi ddim yn dda iawn efo hyn, ond mae e yn rhywun sy’n dangos fel mae byw trwy rhywbeth caled – mae’n rhaid i ti gadw i fynd, ac mae e wedi dysgu hwnna i ni gyd.”

Penodau eraill

Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae’r darlledwr Jason Mohammad; y dylanwadwr a chyflwynydd, Jess Davies; y cerddor, gitarydd a phyndit seiclo S4C, Peredur ap Gwynedd; a’r cyn-Aelod Seneddol ac ymgyrchydd, Siân James.

Mae’r bennod gyntaf gydag Osian Roberts, cyn-is reolwr tîm pêl-droed Cymru, ar gael ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw drwy’r dyddiau da a’r amseroedd anodd, Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd â nhw, nac i ble maen nhw’n mynd nesaf.