Mae Menter Iaith Abertawe wedi cyhoeddi noson ffilm fisol newydd yn Nhŷ Tawe, canolfan Gymraeg y ddinas.

Bydd ffilmiau’n cael eu dangos ar nos Lun olaf bob mis, gan adeiladu ar waith ehangach y Fenter Iaith i gynnig cyfleoedd i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg.

Ymhlith yr arlwy rhad ac am ddim fydd clasuron o archif S4C a’r Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â ffilmiau newydd.

I gyd-fynd â’r dangosiadau ffilm, bydd digwyddiadau ymylol yn cael eu cynnal, gan gynnwys perfformiadau byw a sesiynau holi ac ateb.

Bydd is-deitlau Saesneg gyda’r ffilmiau lle bynnag y bydd hynny’n bosib, er mwyn denu siaradwyr newydd a llai hyderus.

Y ffilm ar gyfer mis Ionawr yw Gwaed ar y Sêr, ffilm arswyd o 1975.

‘Ffordd wych i hysbysebu sinema iaith Gymraeg’

“Mae’r prosiect newydd yma yn ffordd wych i hysbysebu sinema iaith Gymraeg, yn enwedig i siaradwyr newydd fydd, o bosib, heb ddod ar draws y ffilmiau yma o’r blaen,” meddai Dafydd Mills, Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe.

“Mae rhywbeth at ddant pawb yn y rhaglen, o hen glasuron fel Hedd Wyn i ffilmiau newydd fel Y Sŵn.

“Cymharol brin yw’r llefydd sy’n arddangos ffilmiau iaith Gymraeg, felly bydd cynnig lleoliad rheolaidd fel hwn yn adnodd pwysig i’r gymuned leol.”