Mae nifer gynyddol o bobol ifanc yn troi at ddylanwadwyr i gael cyngor ar ffitrwydd, a gallai hyn fod yn beryglus heb oruchwyliaeth feddygol, yn ôl y cyflwynydd Jess Davies.

Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn ymchwilio i’r pwnc ar gyfer cyfres newydd i S4C, Jess Davies: Dylanwad Drwg?

Bydd hi’n cyflwyno cyfres o raglenni materion cyfoes, gan ddechrau gyda rhaglen yn edrych ar fitfluencers, dylanwadwyr digidol sydd yn rhoi cyngor ar ddiet ac ymarfer corff ar gyfryngau Instagram, YouTube a TikTok.

Fe fydd y gyfres yn edrych tu ôl i’r penawdau ar dri phwnc, yn cael cyngor gan bobol broffesiynol, ac yn siarad â phobol ifanc.

Da neu ddrwg?

Mae gwaith ymchwil diweddar gan asiantaeth sy’n arbenigo mewn strategaeth brand wedi adrodd bod mwy na chwe miliwn o bobol yn y Deyrnas Unedig yn troi at genhedlaeth newydd o ddylanwadwyr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael help gyda chyflyrau cronig neu wybodaeth gofal iechyd mwy cyffredinol.

Bydd Jess Davies: Dylanwad Drwg? i’w weld ar S4C nos Fawrth (Ionawr 9) am 21:00, ac yn cwestiynu a ydy fitfluencers yn dda neu’n ddrwg i’n hiechyd.

“Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch i rannu cyngor ar y we,” meddai Jess Davies.

“Mae nifer fawr o bobol ifanc yn cael cyngor am ddiet a ffitrwydd gan ddylanwadwyr yn hytrach na’u meddyg teulu.

“Gall hyn fod yn beryglus.”

‘Dw i jyst yn trio helpu pobol’

Yn y gyntaf o dair rhaglen, bydd Jess Davies yn cwrdd â dylanwadwraig o dalaith Califfornia, Courtney Luna, sydd â thros 100,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif TikTok, lle mae hi’n blogio am ei diet o gig.

“Rydw i wedi bod ar y diet hwn ers 16 mis,” meddai.

“Wnaeth fy meddyg ddim ei argymell i mi…

“Does dim byd sydd gan blanhigion na allwn ei gael o gig sydd ei angen arnom.

“Mae nifer o’m dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi tyfu yn aruthrol.

“Dw i jyst yn trio helpu pobol.

“Does gen i ddim cymwysterau ond mae hynny’n beth arall sy’n gwneud i fi chwerthin achos dydy doctoriaid ddim yn gwybod llawer am faeth…”

Yn yr ail bennod, bydd Jess Davies yn gofyn a yw protestwyr bellach yn cael eu hystyried yn droseddwyr, wrth iddi ymuno â phrotest Just Stop Oil yn Llundain.

Aflonyddu rhywiol fydd dan sylw yn y bennod olaf, a bydd Jess Davies yn holi pam fod merched yn dal i orfod brwydro am eu hawl i deimlo’n ddiogel, ac yn rhannu ei phrofiadau ei hun.