Ym mhennod gyntaf cyfres arbennig i S4C, bydd Osian Roberts, cyn is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, yn trafod ei “frwydr” â’i deimladau a’i emosiynau ers i Gary Speed, rheolwr Cymru ar y pryd, farw yn 2011.
Mewn cyfweliad ar gyfer Taith Bywyd, cyfres fydd yn dechrau ar S4C am 9 o’r gloch nos Sul (Ionawr 7), dywed ei bod yn anodd meddwl yn ôl am y cyfnod, a’i fod e wedi ceisio delio â’r profiad “o fewn ei hun”.
Cafodd corff Gary Speed, cyn-gapten a rheolwr Cymru, ei ganfod yn ei gartref ar Dachwedd 27, 2011, ac yntau wedi lladd ei hun.
Ffrind newidiodd ei fywyd
Ym mhennod gynta’r gyfres, bydd Osian Roberts yn mynd ar daith i gwrdd â’r bobol wnaeth newid ei fywyd a dylanwadu ar ei yrfa.
Mae’n sgwrsio’n agored â’r cyflwynydd Owain Williams am golli un o’i ffrindiau, a rhywun wnaeth drawsnewid ei fywyd.
“Pan ddôth o’n reolwr y tîm cyntaf, doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fo godi’r ffôn a gofyn i mi ddod i’w helpu fo – roedd o’n dipyn o sypreis – a’r unig beth oedd yn fy meddwl i oedd ‘sut ydw i’n gallu helpu Gary i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol?”
“Roedd hi’n golled anferthol oherwydd roeddwn i’n colli ffrind, colli rhywun oedd yn agos iawn.
“Pan mae hynny’n digwydd, mae’n anferth o sioc ac mae’n debyg ’mod i wedi brwydro efo’r teimladau yna ers hynny.
“Dw i’n ddyn sy’n licio darparu ar gyfer pethau ac roedd hwn yn gyfnod lle doeddwn i ddim wedi gallu… Mae o wedi digwydd cyn i chdi wybod.
“Ers hynny, dw i jyst wedi trio delio efo fo o fewn fy hun – dwi ddim yn siŵr os ydi o’r ffordd gywir ond dyna’r ffordd dw i wedi trio, ac ar adegau mae’n anodd meddwl am y cyfnod oherwydd wnaethon ni golli dyn sbesial iawn.”
Cofio Gary Speed
Fis Chwefror 2012, cafodd gêm goffa ei chynnal rhwng Cymru a Chosta Rica.
“Y gêm anoddaf i fi erioed oedd y gêm gofeb i Gary Speed,” meddai Osian Roberts.
“A fi oedd rheolwr y tîm.
“Y canlyniad a’r gêm – dwi’n cofio dim. Roedd y pêl-droed yn eilradd y noson yna.
“Ashley Williams yn dweud wrtha i hanner amser ‘Osh, I can’t run. I can’t feel my legs.’ Roedd y bechgyn, yn seicolegol, wedi mynd.
“Dwi’n cofio tad Gary yn dod ata i cyn y gêm a gofyn ‘Osh, can Ed and Tommy come in and speak to the players before the game?’
“Ac Ed wedyn yn siarad efo’r chwaraewyr yn yr ystafell newid yn dweud, ‘This is what my Dad wanted, he’s so proud of you.’ Roedd y chwaraewyr mewn dagrau yn yr ystafell newid.
“Roedd hi’n noson mor emosiynol a’r unig nod oedd gen i oedd sicrhau o leiaf bod y teulu yn teimlo y bysa honno’n noson y bysa Gary wedi licio.”
Yn y rhaglen, fe fydd Osian Roberts yn cwrdd â Joe Ledley, cyn-chwaraewr Cymru, ac yn derbyn neges fideo gan Thierry Henry, cyn-ymosodwr Ffrainc ac Arsenal, sydd wedi dod yn ffrind ar ôl mynychu ei gyrsiau hyfforddi hyfforddwyr pêl-droed.
Penodau eraill y gyfres
Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae’r actores Sian Reese-Williams; y darlledwr Jason Mohammad; y dylanwadwr a chyflwynydd Jess Davies; y cerddor, gitarydd a phyndit seiclo S4C, Peredur ap Gwynedd; a’r cyn-Aelod Seneddol ac ymgyrchydd Sian James.
Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy’r dyddiau da a’r amseroedd anodd, ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd, nac i ble maen nhw’n mynd nesaf.