Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r gantores a hyfforddwraig Leah Owen, sydd wedi marw’n 70 oed.
Roedd hi wedi bod yn derbyn triniaeth am ganser ers peth amser.
Wedi’i magu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn cyn byw ym mhentref Prion yn Sir Ddinbych, enillodd Leah Owen bedair gwobr yn Eisteddfod Rhydaman yn 1970.
Yn ystod y ddegawd honno, cafodd hi lwyddiant mewn nifer o Eisteddfodau Cenedlaethol, ac rhwng 1975 a 2001 recordiodd hi sawl albwm unigol gyda label Sain.
Hi oedd un o enwau mwyaf cyfarwydd y byd cerdd dant, a bu’n gyfrifol am osod nifer o osodiadau ar gyfer cystadlaethau mewn Eisteddfodau lleol ac yn y Brifwyl.
Bu iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda Baglor mewn Cerddoriaeth yn 1974, ac ym mis Rhagfyr derbyniodd anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth am ei chyfraniad at Ddiwylliant, Cerddoriaeth a Chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg.
Yn 2010, enillodd Fedal Syr T.H. Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Pan nad oedd hi’n perfformio, roedd Leah Owen yn treulio’i hamser yn hyfforddi rhai o fawrion y byd perfformio heddiw, gan gynnwys Mared Williams, Amber Davies a Steffan Rhys Hughes.
Roedd hi’n briod ag Eifion, yn fam i Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys, ac yn nain i saith o wyrion.
‘Welwn ni’m o’i thebyg eto’
Mae Cefin Roberts, cyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy, wedi talu teyrnged iddi ar X (Twitter gynt).
“Newyddion MOR drist! Wedi gwaeledd hir, colli person a wnaeth gyfraniad enfawr i’r bwyd Cymraeg a Chymreig – yn enwedig i fyd Cerdd Dant a Chanu Gwerin,” meddai.
“Cwsg yn dawel Leah (Owen).
“Eisteddfodwraig o’r siort ora. Welwn ni’m o’i thebyg eto.”
Mae Prifysgol Bangor hefyd wedi talu teyrnged iddi.
“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Leah Owen,” meddai’r datganiad.
“Fis diwethaf derbyniodd radd er anrhydedd am ei chyfraniad i ddiwylliant, cerddoriaeth a chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg.
“Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w theulu a’i ffrindiau.”
Bu Leah Owen hefyd yn llywydd anrhydeddus yn Eisteddfod yr Urdd.
“Gyda thristwch mae’r @Urdd yn talu teyrnged i’r gantores Leah Owen, llywydd anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd a hyfforddwraig i gannoedd o blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych dros y blynyddoedd,” meddai ar X.
Sioe Radio Cymru
Mae BBC Radio Cymru, lle roedd Leah Owen yn cyflwyno’i sioe ei hun, hefyd wedi talu teyrnged iddi.
“Gyda thristwch estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Leah Owen, a fu farw’n 70 mlwydd oed.
“Bu Leah yn llais cyfarwydd ar BBC Radio Cymru dros y degawdau a’i chyfraniad at ddiwylliant Cymru’n anfesuradwy. Bydd colled fawr ar ei hôl.”
Mae’r Eisteddfod hefyd wedi talu teyrnged i “gyfraniad enfawr” Leah Owen fel “arweinydd, hyfforddwr, beirniad a chystadleuydd”.
“Roedd cyfraniad Leah Owen i’r Eisteddfod a byd y pethe’n enfawr ac mae’i cholli hi heddiw’n ergyd fawr i ddiwylliant Cymru,” meddai’r mudiad.
“Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Eifion a’r teulu yn eu galar.”
Ychwanega Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru, ei bod yn “fraint” gwrando ar ei detholiadau.
“Gwnaeth Leah gyfraniad oes i gerddoriaeth Gymreig ac felly braint oedd cael gwrando ar ei detholiad o’i hoff gerddoriaeth ar Radio Cymru yn ogystal â’r stôr o wybodaeth oedd ganddi wrth iddi eu cyflwyno,” meddai.
“Roedd canu gwerin a cherdd dant mor bwysig iddi ac roedd hynny’n amlwg yn ei dewisiadau cerddorol.
“Yn yr un modd, a hithau wedi hyfforddi cenedlaethau o blant a phobl ifanc ar hyd a lled Gogledd Cymru, roedd ganddi straeon difyr am nifer oedd wedi cyrraedd y brig yn eu maes.
“Bydd colled mawr ar ei hôl ac rydym yn estyn pob cydymdeimlad ag Eifion ei gŵr, ei phlant a’i theulu a’i ffrindiau.”