Mae deiseb i ddefnyddio’r enw uniaith Gymraeg ar wlad Cymru bellach wedi denu dros 5,000 o lofnodion.

Mae Arfon Jones, awdur y ddeiseb, yn nodi nad oes “fawr neb yn gwybod am Gymru a bod ganddi iaith a diwylliant unigryw ei hunan sydd yn hollol wahanol i’r gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig”.

Ei ddadl yw y byddai defnyddio’r enw uniaith Gymraeg ‘Cymru’ yn unig yn helpu i dorri’r cysylltiad Seisnig sydd wedi bod ynghlwm â Chymru ers goresgyniad y Brenin Edward I yn 1282.

Yn ôl Heini Gruffudd, sy’n gadeirydd ar y mudiad Dyfodol i’r Iaith ac sydd wedi llofnodi’r ddeiseb, mae angen ymfalchïo yn yr enw ‘Cymru’ yn hytrach na defnyddio’r enw ‘Wales’, sy’n tarddu o’r gair ‘tramorwyr’.

“Byddai ei ddefnyddio yn cadarnhau ein hunaniaeth fel gwlad wahanol, yn sicr i bawb sy’n dod i Gymru, a hefyd yn ein gwneud ni’n wlad fwy amlwg ar wahân tra ein bod ni’n dal yn rhan o’r Deyrnas Gyfunol,” meddai wrth golwg360.

“Y gwir yw bod llawer iawn o wledydd y byd wedi newid yn ôl at eu henwau gwreiddiol yn hytrach nag enwau sydd wedi eu rhoi arnyn nhw gan ddieithriaid neu dramorwyr neu ormeswyr.”

Dilyn esiampl Sri Lanca

Dywed Heini Gruffudd fod sawl gwlad, yn enwedig yn Affrica, eisoes wedi troi yn ôl at eu henwau brodorol.

Cyfeiriodd at Sri Lanca fel un enghraifft, wedi i’r wlad roi’r gorau i ddefnyddio’r enw ‘Ceylon’, gafodd ei roi arni gan wneuthurwyr mapiau Ewropeaidd yn 1972.

Nododd fod y defnydd o’r enw ‘Cymru’ gan y tîm pêl-droed cenedlaethol hefyd wedi chwarae rôl bwysig wrth bortreadu hunaniaeth y genedl ar lwyfan y byd.

“Erbyn hyn, mae Cymru, diolch byth, wedi ei dderbyn mewn sawl man, yn enwedig ein system bêl-droed, sydd wedi gwneud gwaith gwych chwarae teg,” meddai.

Yn ôl erthygl ar Wales.com gan Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, y gred yw fod y gair ‘Cymro’ yn deillio o’r gair Llydaweg combrogos, sef ‘cydwladwr’, tra bod ‘Wales’ yn deillio o’r enw ‘tramorwyr.’

“Mae angen i ni ymfalchïo yn yr enw Cymru sy’n golygu llawer mwy i ni na’r enw ‘Wales’, sy’n golygu dieithriaid,” meddai Heini Gruffudd wedyn.

Bydd y ddeiseb yn casglu llofnodion hyd at fis Mehefin, ac er ei bod eisoes wedi derbyn digon o lofnodion i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau, mae angen 10,000 o lofnodion er mwyn cael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.