Mewn erthygl “er amddiffyn ieithoedd lleiafrifol” ar y wefan The Bookseller, mae Aaron Kent yn cyfeirio at achos Menna Elfyn a’i brwydr dros y Gymraeg, wrth iddo alw am ddangos parch at ieithoedd lleiafrifol mewn llenyddiaeth.

“Rhaid rhoi’r parch i ieithoedd lleiafrifol maen nhw’n ei haeddu”, meddai’r erthygl, cyn i’r awdur fynd yn ei flaen i drafod achos Menna Elfyn.

“Pan gafodd y bardd Cymraeg Menna Elfyn ei harestio a’i charcharu ddwywaith am anufudd-dod sifil yn y 1970au a’r 1980au, doedd ei phrotest ddim yn bodoli er mwyn sicrhau y gallai awduron uniaith lenwi eu llyfrau â symboliaeth ddiog,” meddai.

“Na, fe wnaeth Menna Elfyn hynny, fel cynifer o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, er mwyn gwarchod hanes a diwylliant eu hiaith, i gynnal a chadw eu hiaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac i’w gwarchod hi rhag hegemoni’r iaith Saesneg.

“Mae’n gwbl hanfodol, felly, fod ieithoedd yn derbyn y parch maen nhw’n ei haeddu, parch sy’n gysylltiedig ag ymdrechion eiriolwyr ac actifyddion i adfywio a gwarchod yr ieithoedd hynny, parch sy’n sicrhau bod awduron yn ‘cofleidio amrywiaeth ddiwylliannol o hyn allan’.

Pwysigrwydd iaith

Ac yntau’n awdur, dywed Aaron Kent ei fod yn deall pwysigrwydd iaith mewn llenyddiaeth, fel rhan o ymdrechion i sicrhau y gall y darllenydd uniaethu a gweld eu hunain yn y gwaith.

Dywed ei fod e wedi cyhoeddi llyfrau yn y Gernyweg, Cymraeg, Gaeleg yr Alban, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwmaneg, Hebraeg, Almaeneg a Ffilipino.

“Drwy wneud hynny, dw i wedi ymdrechu i ddysgu ynganu teitlau’r llyfrau, enwau’r awduron a geiriau allweddol cyn eu cyflwyno nhw mewn darlleniadau,” meddai.

“Mae hyn oherwydd bod enwau, yn enwedig, yn cario pwysau hunaniaeth, ac mae’n bwysig sicrhau bod siaradwyr iaith yn gallu parhau i glywed eu hunain yn y geiriau sy’n cael eu defnyddio.

“Fel rhywun sy’n clywed fy enw’n cael ei ynganu, a’i sillafu, mewn amryfal ffyrdd, dw i wedi cael fy hun yn synnu ar yr ochr orau, ac yn wirioneddol hapus, pan fydd pobol yn fy nghyflwyno ag ynganiad cywir fy enw (dw i’n ei ynganu fel Ah-Ron).”