Fe fydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnal y gystadleuaeth gelf, Abertawe Agored, unwaith eto eleni.

Mae’r gystadleuaeth flynyddol yn agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9).

Mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled y ddinas. Bydd y gweithiau sy’n cael eu dewis o’r rheini a gyflwynwyd yn cael eu harddangos yn ystafell 3 yr oriel.

Bob blwyddyn, mae panel gwahanol yn cael eu gwahodd i ddethol y darnau o waith ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol, meddai’r oriel.

“Amrywiaeth eang”

Mae’r arddangosfa’n ceisio cynnwys amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid proffesiynol ac amatur. Bydd tri enillydd o’r ymgeiswyr sy’n cael eu harddangos yn cael eu gwobrwyo gyda gwobr gyntaf o £250, ail wobr o £150 a thrydedd wobr o £100. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddiwrnod agor y gystadleuaeth ddydd Sadwrn, 3 Chwefror.

Hefyd, bydd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno gwobr o £200 am waith celf penodol.

Y detholwyr gwadd eleni yw Alan Whitfield, artist gweledol a Swyddog Datblygu Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru, a Dr Zehra Jumabhoy, hanesydd celf, curadur, awdur a Darlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste.

“Dathlu creadigrwydd”

Meddai curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, Karen MacKinnon: “Mae bob amser yn hyfryd pan ddaw’n amser cynnal ein harddangosfa flynyddol, Abertawe Agored. Mae’n cynnig cyfle gwych i ddathlu holl greadigrwydd pobl ein dinas. Rydym yn annog cynigion gan bawb, gan gynnwys artistiaid proffesiynol ac amatur, myfyrwyr celf a chrewyr o bob rhan o Abertawe.

“Hyd yn oed os nad ydych yn cyflwyno’ch gwaith eleni, lledaenwch y gair a dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu i weld y dathliad hyfryd hwn o gelfweithiau amrywiol a chyffrous.”

Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr oriel tan ddydd Sul 19 Mai 2024, gyda llawer o’r gwaith ar werth fel rhan o’r arddangosfa.