Mae cynllun i greu celf i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni wedi derbyn dros £30,000 gan gronfa ym Mhowys.
Mae 17 o sefydliadau wedi derbyn grantiau trwy gronfa Ffyniant Bro Gyffredin y Deyrnas Unedig i helpu i wella cymunedau yn y sir.
Bydd £33,778 yn mynd i Fenter Iaith Maldwyn i greu a chyflenwi digwyddiadau celf sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod yr Urdd, fydd yn cael ei chynnal ym Meifod ddiwedd mis Mai.
Ledled Powys, mae cyfanswm o £420,000 wedi cael ei roi drwy’r gronfa Ffyniant Bro Gyffredin, ac mae arian yn mynd tuag at sawl cynllun megis un i wella coetiroedd y sir ac un arall i hyrwyddo llwybrau treftadaeth yn Ystradgynlais sy’n gysylltiedig â’r ffoadur a’r artist Iddewig, Josef Herman.
Bydd arian hefyd yn mynd tuag at gynllun yn Y Drenewydd sy’n dysgu pobol sut i dyfu a choginio eu bwyd eu hunain, ac ar gyfer cynlluniau i greu gardd gymunedol yng Nghrughywel i gynyddu bioamrywiaeth.
‘Lle gwell i fyw ynddo’
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sydd wedi dosbarthu’r cyllid gan Gronfa Gwneud Gwahaniaeth Powys, ar ran Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (SPF).
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi cymaint o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol, a phob un ohonynt yn gweithio’n galed i wneud Powys yn lle gwell i fyw ynddo ac ymweld ag ef, diolch i grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig,” meddai Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO.
“Roedd y sefydliadau llwyddiannus wedi gwneud yn dda iawn i ddod trwy broses bidio hynod gystadleuol, oedd yn golygu fod gan y panel aml-asiantaeth oedd yn gyfrifol am eu hasesu, ddigon o waith meddwl.
“Rwyf yn edrych ymlaen nawr at weld cynnydd pob un o’r prosiectau llwyddiannus dros y deuddeg mis nesaf, dan arweiniad swyddogion datblygu PAVO.”
‘Creu Powys gryfach, decach a gwyrddach’
Ychwanega’r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Powys fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Leol SPF Powys, fod y cynlluniau am eu helpu i wireddu’r nod o greu Powys “gryfach, decach a gwyrddach”.
“Mae’r grantiau hyn yn helpu mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad a nodwyd o dan thema Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer Powys: Cymunedau a Lle, Cludiant cymunedol, Treftadaeth Ddiwylliannol a Thwristiaeth, Gweithredu ar yr Hinsawdd, Costau Byw a Chysylltu Cymunedau (yn ddigidol neu fel arall),” meddai.