Mae criw o ddynion o Fro Morgannwg sy’n dioddef â’u hiechyd meddwl yn dweud bod chwarae mewn band newydd wedi newid eu byd.
Cafodd y band ei ffurfio gan dîm cefnogaeth gymunedol iechyd meddwl Cyngor Bro Morgannwg, ac mae’n cynnwys pobol sydd gan orbryder cymdeithasol difrifol.
Doedd prif leisydd y band, Max Brookes, methu gwneud cyswllt llygaid ag unrhyw un yn y band yn ystod y sesiynau cyntaf, medd Geri Goddard, un o weithiwr cymdeithasol y cyngor.
Fodd bynnag, wrth i’r wythnosau fynd heibio, gwelodd yntau a gweddill yr aelodau newid mawr.
“Mae hyn wedi fy helpu shwt gymaint gyda fy hyder,” meddai Max
“Dw i wastad wedi hoffi cerddoriaeth, ond tu ôl i ddrysau caeedig.”
Mae gweddill aelodau’r band yn cynnwys Anthony Jones ar y gitâr drydan a Ray Maylin ar y gitâr acwstig.
Mae Mike Fulthorpe o Breath Creative CIC, sy’n hybu llesiant meddyliol drwy greadigrwydd, yn ymuno â nhw ar y llwyfan hefyd.
Cynhaliwyd y gig gyntaf ym Mar 96 ar Stryd Fawr y Barri yn ddiweddar.
“Dw i efo’r tîm iechyd meddwl oherwydd fy mod i’n ffeindio hi mor anodd i ymrwymo’n hun i wneud pethau dw i’n eu cael yn anodd oherwydd bod gen i’r pryderon a’r ofnau hyn,” meddai Max.
“Dw i’n mynd i banig, dweud ‘na, fedra i ddim’, a chau lawr.
“Wrth ddod i chwarae’r gig roeddwn i’n bryderus, ond unwaith y gwnaethon ni ddechrau chwarae, fe wnes i gau popeth arall allan ac roeddwn i’n iawn eto.
“Pe bai’r band yn stopio efo hyn, fyddai hynny’n iawn, ond fydden i’n hoffi parhau i chwarae fel grŵp a dod â mwy o bobol mewn, o bosib.”
Fe wnaeth Dave McDonald, perchennog Cardiff Evolution Studio, adael i’r band recordio sengl, ‘Hope’, yno am ddim.
‘Gweld y gwahaniaeth’
Dywed Geri Goddard, sydd wedi bod yn gyfrifol am y cynllun, fod neb yn siarad nag edrych ar ei gilydd pan wnaethon nhw ddechrau’r cynllun.
“Yna fe wnaeth Mike o Breathe Creative siarad am ambell reol a chyfrinachedd ac fe wnaethon ni gyd rannu rhai o’n profiadau personol a dod i adnabod ein gilydd. Roedden ni i gyd yn deall ac yn parchu’n gilydd.
“Ar y dechrau, byddai Max yn eistedd yn y gongl gyda hwd am ei ben, dim cyswllt llygaid a fyddai e bendant ddim yn canu.
“Wythnos ar ôl wythnos, roeddech chi’n gweld y gwahaniaeth. Roeddech chi’n gweld ei hyder yn datblygu.
“Byddai mam Max yn anfon negeseuon ata i pan roedd e’n cyrraedd adre yn gofyn be oeddwn i wedi gwneud gydag e. ‘Fe wnaeth e ddeffro fore heddiw mor isel a nawr mae e’n hapusach nag y buodd ers amser hir’, meddai ei fam.
“Mae’r un peth yn wir am Ray. Roedd e wir eisiau dod i’r ymarferion, ac Anthony. Mae e’n ofod diogel i bawb ddod yma a bod yn greadigol. Dw i’n sicr wedi gweld gwahaniaeth mawr ynddyn nhw.”
‘Help mawr’
Doedd Anthony, sy’n dioddef o orbryder cymdeithasol difrifol, ddim yn gyfforddus am yr ychydig sesiynau cyntaf gyda’r band.
“Roedden nhw’n fy ngwneud i’n eithaf sâl am ddiwrnod neu ddau wedyn,” meddai.
“Ond dros y ddeuddeg wythnos, mae e wedi dod yn rhywle fedra i fynd a theimlo fy mod i’n ymlacio.
“Mae e wedi helpu fi’n fawr o ran mynd allan a bod o amgylch pobol nad ydw i’n eu hadnabod yn rhy dda.”
Anelu at barhau â’r cynllun
Ynghyd â thrwy gefnogaeth gan unigolion, cafodd y cynllun ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Y nod nawr yw ehangu’r rhaglen, ac mae’r cyngor wedi dweud eu bod nhw’n trio sicrhau mwy o gyllid.
Mae trafodaeth ar y gweill i agor Bar 96, sy’n berchen i James Bagnal, fel gofod iechyd meddwl fyddai’n rhoi lle i artistiaid chwarae a chynnig paneidiau i bobol.
Roedd James Bagnal yn rhan o’r cynllun, a rhoddodd ganiatâd i’r band ddefnyddio’r bar am ddim.
“Mae’r tîm wedi defnyddio cryfderau pobol er mwyn eu helpu nhw i dyfu a datblygu,” meddai Linda Woodley, rheolwr gweithredoedd gwasanaethau oedolion y cyngor.
“Mae eu hiechyd meddwl nhw wedi gwella tra’u bod nhw’n cael amser da.
“Rydyn ni eisiau parhau â hynny. Bydd rhaid i ni edrych am gyllid ond o ystyried y canlyniadau a’r newid cadarnhaol mewn pobol, dw i wir yn gobeithio y daw arian.
“Dw i wedi siarad ag aelodau’r band a chlywed canmoliaeth gan eu rhieni.
“Maen nhw’n dweud fod y newid maen nhw wedi’i weld ers mae’r band gyda’i gilydd wedi bod yn fwy nag unrhyw newid ers blynyddoedd. Maen nhw mor ddiolchgar am hynny.”