Wrth i’r tywydd droi’n oer eleni, bu’r gŵr a fi’n sylwi fod ein hen duvet ni ddim yn ddigon cynnes; yn wir, mi roedd yn hen ac roedd y plu tu fewn iddi wedi ffurfio talpiau yma ac acw, ac roedd tolciau rhyngddyn nhw wedyn. Roedd yn anghyffyrddus ac, o sidro fod yna inc gwyrdd dros ran ohoni hefyd lle ges i ddamwain wrth arbrofi hefo gwaith celf ar ddechrau’r pandemig, teg dweud ei bod yn amser am un newydd.

Es i ati i ymchwilio duvets felly, a difyr iawn oedd ystyried faint oedd wedi newid ers y tro diwethaf imi brynu un ’nôl pan symudais i fy nghartref priodasol yn 2010. Os dw i’n cofio’n iawn, o Debenhams yng Nghaer ges i’r llall, ac mae’r siop honno bellach wedi cau. Google oedd fy man cychwyn naturiol y tro hwn.

Bob tro dw i’n ymchwilio at brynu rhywbeth newydd, gan ddarllen adolygiadau a ballu, buan iawn y daw un neu ddau o opsiynau i’r brig, ffefrynnau’r farchnad fel petai, ac fel’na oedd hi y tro hwn hefyd. Daeth yn glir fod gan meicroffeibr enw da erbyn hyn, felly es i ati i gymharu’r rhai trwm, rhad oedd ar gael.

Y duvet perffaith

Pan brynais i’r duvet ’nôl yn 2010, cefais fy mherswadio gan y bobol yn y siop fod prynu un ysgafn ac un ychydig yn fwy trwm yn syniad da, gan fod yna poppers arnyn nhw, ac wrth gysylltu’r ddau duvet hefo’r poppers, roeddech yn cael duvet trwm 15 tog – felly tri duvet mewn gwirionedd!

Ie, ond dros y blynyddoedd, syrffedais wrth orfod agor y gorchudd bron bob bore i ailosod y poppers lle roedden nhw wedi gwahanu yn y nos, gan adael rhan o un duvet yn lwmpyn mawr ar ran o’r gwely, a bwlch mawr rywle arall. Felly, roeddwn yn benderfynol o gael un duvet mawr trwm rŵan, a phrynu un arall ysgafn yn yr haf.

Ar ôl llawer iawn o chwilio a thrafod, wneuthum setlo ar duvet meicroffeibr 15 tog, y fersiwn ‘nosweithiau oer’ – rhannaf hefo chi fa’ma gan ei bod mor gynnes a hyfryd, teimlaf y dylai pawb cael gwybod amdanyn nhw!

Daeth hefo dau glustog gyffyrddus hefyd, ac mae e fel ryw gwmwl mawr cyffyrddus; dim ots pa mor oer dw i’n teimlo (ac mae gen i broblemau hefo fy nwylo a thraed yn yr oerni), dw i ddim chwinciad yn cynhesu o dan y duvet yma.

Bu sawl sgwrs erbyn hyn, Chez Wheeler, am faint rydym yn gwerthfawrogi’r duvet newydd, hyd nes i ni feddwl y dylen ni fod wedi prynu un cyn rŵan. A pherodd hyn i mi grwydro Lôn Atgofion, yn ôl at bedsits rhewllyd Sir Wrecsam…

Rhewi yn Rhosddu 

Dwi’n cofio deffro un bore a chodi o’r gwely… a syrthiais ar y llawr gan fod fy nghoesau a thraed mor oer doedd fawr o deimlad gen i ynddyn nhw. Roeddwn yn gwisgo siwmper rollneck, jogging bottoms ac o leiaf ddau bâr o sanau, ond doedd hynny’n amlwg ddim yn ddigon.

Ystafell atig oedd gen i ene ar y pryd – roeddwn wedi symud fyny iddi o’r un ar y llawr cyntaf gan ei bod hi’n fwy ac roedd yna lenni – rhywbeth nad oedd gan y stafell arall, ac anodd oedd newid yn y bore, felly…

Mi roedd hi’n stafell neis hefo sinc yn y gornel, a dyma un o’r bedsits saffaf fues i’n byw ynddi, gan fod y landlord yn byw lawr grisiau ac mi roedd o’n berson addfwyn a ffeind… tra ei fod hefyd yn gawr o ddyn ifanc, cyhyrog fysa neb yn pigo ffeit hefo fo! A ges i fyw yno yn ddiderfyn, yn wahanol iawn i’r contractau byr, ansefydlog berodd i mi symud naw gwaith mewn blwyddyn (1996).

Ond duwcs oedd hi’n oer ene – oerach nag allan ar y stryd, hyd yn oed! Ges i sgwrs ddifyr un tro gyda Paddy, oedd yn byw yn un o’r stafelloedd eraill, am y ffaith y byddai’r stafelloedd yma’n gynhesach yn y gorffennol, gan y byddai modd cynnal tân yn y grât… ond megis adnewyddu’r adeilad oedd y landlord, oedd yn adeiladwr ac felly yn gwneud lot o’r gwaith ei hun.

Wel, deffrais un bore yn ddiweddar, gan swatio o dan fy duvet newydd moethus, yn giglo wrth feddwl ei bod fel pe bawn i wedi cysgu’r nos yn ‘Care-a-lot’, cartref y ‘Care Bears’. Ac wrth hel atgofion am yr ’80au, trodd fy synfyfyrion at y ’90au a chefais fy nghipio gan lif o atgofion fel pe bai ton fawr wedi fy llyncu ar lan y môr.

Cefais fy hun yn meddwl gymaint yr hoffwn i ymestyn yn ôl i’r ’90au a rhannu fy duvet newydd hefo Sara 17 oed yn ei bedsit rhewllyd – neu’n well fyth, prynu un a mynd ag o draw iddi mewn Tardis, neu trwy Stargate neu ei debyg. Ac yna meddyliais sut yr hoffwn i brynu llond Land Rover ohonyn nhw a’u cymryd nhw draw i holl Fanciau Bwyd Wrecsam, megis y rhoddion bu tîm Plasty Erddig yn ei wneud yn ddiweddar hefo nwyddau amrywiol.

Cyfrol, celf a gwaddol meicroffeibr

Ond, wrth gwrs, does gen i ddim Tardis, na Stargate… na chwaith y math o gyfoeth fyswn ei angen er mwyn prynu pentwr o duvets meicroffeibr 15 tog i’w rhannu hefo holl drigolion bedsits rhewllyd Dinas-Sir Wrecsam; nid rhoddion ariannol yw fy ngwaddol, hyd yn hyn. Y cwbl fedraf ei wneud yw plannu’r syniad yma, rhag ofn fod eraill mewn sefyllfa i wneud rhywbeth felly… er… erbyn meddwl…

Mae gen i lond llaw o gerddi am fy mhrofiadau o fyw’n fregus ac ansicr, wrth fwhwman o bedsit i bedsit yn Sir Wrecsam. Maen nhw’n rai heriol, a fyddan nhw’n sicr ddim at ddant pawb. OND…! Mi fedraf ychwanegu atyn nhw dros y flwyddyn newydd gyda cherddi, straeon byrion a chelf weledol.

Os fedra i gyhoeddi cyfrol newydd, neu efallai cael arddangosiad celf – neu’r ddau – mae yna botensial i mi ‘ladd dau dderyn efo’r un garreg’, os rhoddaf unrhyw elw i’r banciau bwyd iddyn nhw gael prynu a rhannu duvets.

Nawr ‘te, does gen i ddim y wybodaeth am sut i fynd ati i wneud hyn – a dweud y gwir, does fawr o ‘synnwyr busnes’ gen i, na’r gallu i gyfrifo hyd yn oed! Ond os ydych chi’n dal yn darllen y geiriau hyn – diolch! Ac os oes gennych chi syniad am sut i wireddu’r breuddwydion meicroffeibr hyn, plîs rhowch wybod!