Bu farw Llywydd Anrhydeddus Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru, Mrs Elisabeth James, ychydig ddyddiau cyn y Nadolig. Yma, mae Aled Davies, Cyfarwyddwr y Cyngor, yn rhoi teyrnged iddi.
Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Mrs Elisabeth James, Aberystwyth ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.
Elisabeth oedd ein Llywydd Anrhydeddus fel Cyngor ers dros 25 mlynedd, a bu yn aelod gweithredol o’r Cyngor am dros 50 mlynedd, gan gamu i’r swydd y bu i’w phriod, Dan Lynn James, lenwi cyn hynny.
Bu Dan ac Elisabeth yn arloeswyr ym maes datblygu a chreu gwerslyfrau i blant ac ieuenctid Ysgolion Sul Cymru, gan ysgrifennu a golygu cyfresi di-ri o lyfrau a gafodd eu defnyddio gan genedlaethau o blant.
Cyhoeddwyd y gwerslyfrau cyntaf ganddynt ddechrau’r saithdegau, ac ar y pryd, gydag Ysgolion Sul yn eu bri, roedd degau o filoedd o lyfrau yn cael eu hargraffu.
Bu’n olygydd cyffredinol i gyfres werslyfrau Gyda’n Gilydd, a gyhoeddwyd ganol y 90au, a hyd yn oed bryd hynny argraffwyd 15,000 o lyfrau yn flynyddol.
Tybed faint o blant Cymru a ddysgodd am storïau’r Beibl a’r hanes am Iesu trwy waith Elisabeth dros gyfnod o dros 30 mlynedd?
Bu Elisabeth hithau yn awdur, cyfieithydd a golygydd ffyddlon i Gyhoeddiadau’r Gair am flynyddoedd wedi hynny, gan gynnwys y gyfres werslyfrau Gyda’n Gilydd a nifer o Feiblau lliw a llyfrau darllen i blant.
Yn nyddiau cynnar y wasg ni wnâi ddim fynd at yr argraffwyr heb i Elisabeth sicrhau bod pob gair yn ei le, a’r testun oll yn ffyddlon i’r Beibl. Roedd ei brwdfrydedd a sêl dros waith y deyrnas bob amser yn heintus, a diolchwn am ei chyfraniad i fywyd ysbrydol ein cenedl.
Gwnaeth ymdrech i geisio pontio ac uno pobol o draddodiadau, safbwyntiau ac ieithoedd gwahanol, gan roi Iesu yn y canol bob amser.
Roedd yn weddïwraig ffyddlon a thriw, gan gofio am waith cynifer o fudiadau Cristnogol yn y gweddïau hynny.
Yn bersonol mae gen i atgofion i’w trysori tra’n treulio amser ar yr aelwyd ym Mronallt wedi ymgolli ynghanol proflenni, wrth iddi gywiro a chynghori, a’r sgwrs bob amser yn fendithiol. Roedd croeso ar yr aelwyd bob amser, gyda chinio neu swper yn rhan o’r croeso hwnnw.
Diolchwn i Dduw amdani, ac am ei ffydd gadarn a fu’n angor iddi gydol ei hoes.
Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant gyda Bethan, Gwenno, Dafydd a’r teulu oll yn eu hiraeth.
Cynhelir ei hangladd yn Seion, Baker St, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 13eg o Ionawr am 11.30. Ei dymuniad oedd bod unrhyw roddion er cof amdani yn mynd at waith y Cyngor Ysgolion Sul, a diolchwn am y cyfle i gydweithio gyda’r teulu i wireddu hynny. Byddwn yn rhannu dolen yn fuan, lle gall bawb sy’n dymuno gyfrannu ar-lein yn ogystal. Bydd cronfa yn cael ei sefydlu i wireddu project arbennig er cof am Elisabeth.