Mae’r gantores Aloma James wedi dweud ei bod hi mewn “lle tywyll” ar ôl cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint.

Cafodd Aloma, a oedd yn un hanner o’r ddeuawd boblogaidd Tony ac Aloma, ddiagnosis yn gynharach eleni.

Mae’r canser bellach wedi clirio ar ôl iddi gael radiotherapi, a chafodd y driniaeth ychydig cyn recordio pennod arbennig o Noson Lawen, fydd yn dathlu 60 mlynedd y pâr ym myd adloniant.

Cynyddodd eu poblogrwydd yn y 1960au a’r 1970au gyda chaneuon fel ‘Mae Gen i Gariad’ a ‘Dim Ond Ti’, ac yn ddiweddarach aethon nhw i redeg Gwesty’r Gresham yn Blackpool.

‘Wedi bod yn lwcus’

Mae Aloma’n teimlo bod cael ME ers bron i 30 mlynedd wedi bod o help iddi ymdopi â’r salwch diwethaf.

“Yn ystod y misoedd nesaf bydd y doctoriaid yn parhau i fonitro fi a bydd gen i sganiau ac ati ond diolch i Dduw, mae’r canser wedi mynd,” meddai Aloma.

“Cefais ddiagnosis o ME bron i 30 mlynedd yn ôl. Roedd yn salwch cymharol anhysbys ar y pryd ac fe gymerodd amser i’w ddiagnosio.

“Does dim llawer yn y ffordd o drin ME ond mae wedi cael cryn effaith arna i ond yn ein busnes mae’n rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen.

“Un enghraifft oedd pan oedden ni’n gwneud tymor haf yn Eastbourne gyda’r digrifwr Tom O’Connor ac roedd rhaid i ni wenu a chwarae a chanu, ond rhai nosweithiau mi fyddwn i’n dod i oddi ar y llwyfan a phasio allan.

“Roedd yr un peth efo’r gwesty. Roedd yn rhaid i ni sicrhau bod y gwesteion yn hapus.

“Dw i wedi brwydro dros y blynyddoedd a pheidio gadael iddo reoli fy mywyd ac roedd yr un peth yn wir efo’r diagnosis o ganser.

“Dw i wedi bod lawr ac mewn lle tywyll iawn ac yn meddwl y gwaethaf ac wedyn yn dweud wrth fy hun ‘tyrd ‘mlaen, gallai fod yn waeth’, a diolch byth ges i newyddion da.

“Dydy llawer o bobol ddim yn cael hynny a dw i wedi bod yn lwcus.”

‘Ddim yn gallu gwrthod’

Bydd y bennod arbennig o Noson Lawen, sy’n cynnwys sgwrs rhwng Tony ac Aloma a Kris Hughes, yn cael ei darlledu nos Sadwrn, Ionawr 6 ar S4C, ac yn deyrnged i’w cyfraniad i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg.

Fe fydd perfformiadau o’u caneuon mwyaf adnabyddus gan artistiaid fel Aeron Pughe, Rhys Meirion, Dylan Morris, Wil Tân, Ffion Emyr a Catrin Angharad hefyd.

Llun gan Raymond Daniel

Ychwanega Aloma eu bod nhw’n ddiolchgar i Gwmni Da am gredu eu bod nhw’n haeddu rhaglen fel hon.

“Ar y dechrau, doedden ni ddim yn meddwl y bydden ni’n gallu gwneud hynny,” meddai.

“Doedd Tony ddim eisiau gwneud hynny achos mae’n meddwl ei fod yn rhy hen, mae o’n 84 rŵan.

“Roeddwn i wedi cael diagnosis o ganser a newydd gael triniaeth, ond doedden ni ddim yn gallu gwrthod y cynnig ac roeddwn i’n falch iawn ein bod ni wedi gwneud hynny.”