Mae’r cogydd Bryn Williams wedi datgelu y byddai ei wraig Sharleen Spiteri, cantores y band Texas, yn barod i symud i Gymru “fory”.
Mae gan y cogydd gartref yn Llandyrnog yn Nyffryn Clwyd, ac fe wnaeth ei wraig gwympo mewn cariad â Chymru yn ystod cyfnodau clo’r pandemig Covid-19.
Fe yw gwestai diweddaraf Elin Fflur yn y gyfres Sgwrs Dan y Lloer, ac mae’r bennod bellach ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Yn ystod y sgwrs yn ei fwyty yn Adelboden yn y Swistir, fe wnaeth Bryn Williams ddisgrifio sut y bu iddyn nhw gadw eu perthynas yn dawel am flynyddoedd, a dim ond eu ffrindiau agos a theulu yn gwybod.
Maen nhw’n byw yn Llundain ar hyn o bryd, ac mae’n dweud nad yw’n barod i ddychwelyd i Gymru eto, ond mae ei wraig yn teimlo’n wahanol.
“Fasa Sharleen yn byw yna fory,” meddai’r cogydd.
“Ar ôl lockdown, aru hi gael y teimlad yna, yn sydyn ar ôl lockdown, ‘se hi yn hapus yn Llandyrnog.
“Ond dwi ddim cweit yn hapus eto.”
Pedwar bwyty
Mae Bryn Williams yn rhannu ei amser rhwng ei bedwar bwyty ar hyn o bryd – Odettes yn Llundain, Bryn Williams Porth Eirias ym Mae Colwyn, The Touring Club ym Mhenarth, a’r Cambrian yn Adelboden.
Ymhlith ei gwsmeriaid mwyaf adnabyddus mae Kylie Minogue, Paul McCartney a Noel Gallagher, ond dydyn nhw ddim yn cael eu trin yn wahanol i gwsmeriaid eraill, meddai.
“Mae pawb yn cael eu trin union yr un peth.
“I fi y bwyd sy’n bwysig, dim ots pwy sy’n bwyta fo.”
Cafodd ei ddylanwadu fel cogydd gan Marco Pierre White a Michel Roux Jr.
Ac yntau’n gogydd adnabyddus, mae’n well gan Bryn Williams gadw ei fywyd preifat yn dawel.
“Aru ni’n dau gytuno i gadw o yn ddistaw, dweud wrth neb heblaw am teulu a ffrindiau, ac oedd o yn ddistaw am dair i bedair blwyddyn i fod yn onest,” meddai.
“Hyd yn oed rŵan, rydan ni yn dweud ’na’ i bob peth, i fod yn onest.
“Rydan ni yn cael ein gofyn i wneud bob un rhaglen deledu, bob un papur, bob un magazine, y briodas – pob peth, ti’n gwbod? Rydan ni yn dweud ’na’ i bob peth.
“Mae yna elfen yn gorfod bod mae jyst hi a fi yn gwybod amdano. Os ydi pawb yn gwybod bob peth amdano ti, be’ ydi’r pwrpas?”