Bydd sioe gerdd Branwen: Dadeni, fu ar daith dros yr hydref, yn cael ei dangos ar S4C heno (Rhagfyr 30).

Mae’r sioe yn seiliedig ar stori Branwen yn y Mabinogi, a chafodd pob tocyn ar gyfer y perfformiadau yn Aberystwyth a Bangor eu gwerthu fis Tachwedd.

Bu’n rhaid rhoi mwy o docynnau ar werth i ateb y galw yng Nghaerdydd hefyd.

Cafodd Branwen: Dadeni, gan Ganolfan Mileniwm Cymru a’r Frân Wen, ei sgrifennu gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies a Gethin Davies, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, yn cyfarwyddo.

‘Braint lwyr’

Mared Williams sy’n actio’r prif ran, ac mae gweddill y cast yn cynnwys actorion fel Gillian Elisa, Rithvik Andugula a Caitlin Drake.

“Mi oedd hi’n fraint lwyr cael chwarae rôl sydd yn gyfarwydd iawn i ni yn ein storïau yma yng Nghymru,” meddai Mared Williams.

“Roedd hi bendant yn sialens greadigol dod fyny efo fersiwn oedd yn gweddu’r sioe ail-ddychmygol a fersiwn sy’n debycach i fyd heddiw ond ges i gymaint o foddhad allan o gydweithio gyda’r cast a thîm creadigol anhygoel.

“Dw i’n gyffrous i weld sut mae’r stori yn trosglwyddo i’r sgrîn… Dw i’n edrych ymlaen at weld rhannau o’r stori nad oeddwn i’n gallu gweld oherwydd fy mod ar y llwyfan rhan fwyaf o’r amser fel Branwen!”

‘Rhaid ffilmio’

Doedd dim dwywaith fod rhaid i Afanti ffilmio’r sioe, meddai Emyr Afan, Prif Weithredwr ac Uwch Gynhyrchydd y cwmni cynhyrchu.

“Doedd dim dwywaith fod yn rhaid i Afanti ffilmio’r gwaith arloesol hwn sy’n cynrychioli gwerthoedd cynhyrchu mor uchel, talent Cymru ar ei orau ac yn bennaf oll gwaith fyddai’n ennyn parch cenedlaethol a rhyngwladol am y safonau yna a’r stori oesol mae’n ei gynrychioli,” meddai.

“Mae’n bwysig bod theatr Cymraeg a’n diwylliant yn parhau i gael llwyddiant byd eang mewn ffilm a theledu a dyna pam mae’r bartneriaeth rhwng Afanti, Canolfan y Mileniwm a chwmni theatr Frân Wen a nawr S4C mor bwysig i ni.

“Mae’n briodol mai S4C, sy’n sefyll dros yr un gwerthoedd, sy’n cael y darllediad cyntaf o’r gwaith arloesol hwn BRANWEN : DADENI.

Ychwanega Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C, ei bod hi’n “fraint” cael ei darlledu ar y sianel.

  • Bydd Branwen: Dadeni yn cael ei darlledu heno, nos Sadwrn, Rhagfyr 30 am 9yh.

Y cerddor sy’n cofleidio’r Gymraeg

Cadi Dafydd

“Ryden ni eisiau i bobol ddeall bod rhaid i Gymru esblygu er mwyn helpu’r Gymraeg”

Branwen: Dadeni: cynhyrchiad uchelgeisiol sy’n rhoi tân ym mol hen stori

Non Tudur

Gohebydd celfyddydau Golwg fu’n gwylio noson agoriadol y sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Branwen: Dadeni – “gwaith hyderus” sydd yn “herio cynulleidfa”

Non Tudur

“Dw i bron iawn heb eiriau i ddisgrifio pa mor wych oedd o… y gerddoriaeth wrth gwrs yn hollol annisgwyl, y rap a phethau fel yna”

Branwen yn hedfan eto

Non Tudur

“Mae o mewn Cymraeg byw, ond rydan ni eisio bod yn uchelgeisiol er mwyn, pwy a ŵyr, fynd ag o yn rhyngwladol!”