Mae sioe gerdd fawr newydd a chyffrous ar daith, sy’n ail-ddychmygu chwedl fawr Branwen o ail gainc y Mabinogi. Bu gohebydd celfyddydau Golwg yn gwylio noson agoriadol y sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru…
Roedd cynnwrf amlwg i’w deimlo yn yr awditoriwm cyn perfformiad cyntaf Branwen: Dadeni yn theatr fawr Canolfan Mileniwm Cymru yn y Bae yng Nghaerdydd. Bron i 2,000 o bobol ar bigau’r drain i weld ffrwyth llafur cast a chynhyrchwyr dawnus yn adrodd un o chwedlau enwocaf ein hanes.
Cynhyrchiad ar y cyd yw’r sioe gerdd newydd rhwng y Ganolfan a chwmni’r Frân Wen o’r gogledd. Mae holl docynnau’r daith – yng Nghaerdydd, yn Aberystwyth ac ym Mangor – i gyd wedi’u gwerthu yn gyflym. Penseiri’r sioe yw Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda Seiriol yn bennaf gyfrifol am y geiriau a’r gerddoriaeth.
Mae yna gast o berfformwyr amryddawn, dan arweiniad seren ‘Welsh of the West End’, Mared Williams. Yr actorion eraill yw Rithvik Andugula (Matholwch), Caitlin Drake (Efnisien), Tomos Eames (Bendigeidfran), Gillian Elisa (Ena), Mali Grooms (Plentyn/Gwern), ac Ioan Hefin (Picell). Mae cantorion adnabyddus yn rhan o’r ‘Wythawd’ – fel Steffan Hughes, Lisa Angharad a Huw Evans.
Branwen yw arwres y stori yma, a’i hawydd i weld ei theyrnas yn ffynnu yn bwrw golau newydd ar sut y mae Cymru yn mynd ati heddiw i hawlio’i lle yn y byd a mynnu grym. Yn y sioe yma, mae Branwen yn gorfod wynebu ei phenderfyniadau annoeth ei hun – roedd y cynhyrchwyr eisiau craffu ar ei datganiad truenus ar ddiwedd y chwedl hynafol, ‘dwy ynys dda a ddifethwyd o’m hachos i’. Yr awgrym yn y sioe yw y dylai Cymru edrych ar ei gwendidau a’i diffygion yn ogystal â’i llwyddiannau, er mwyn gallu symud ymlaen yn hyderus.
‘Deall pa mor bwysig yw dysgu’r iaith’ – profiad y perfformiwr
Bu’r bardd-rapiwr Rithvik Andugula, sy’n actio ‘Matholwch’, yn rhoi ei ymateb ar ôl y sioe. Cafodd ei fagu yng Nghaerdydd, India a Llundain, ac mae ganddo rywfaint o Gymraeg ers ei ddyddiau ysgol ond llwyddodd i ddysgu ei linellau yn drylwyr drwy eu gosod i’w rhythm ei hun. Ei hoff linell yn y sioe oedd ‘Does dim digon ad-daliad digon hael am yr erchylltra yma!’ oherwydd yr holl gytseiniaid cras.
“Rydw i’n dwlu ar stori Branwen,” meddai yn Gymraeg, cyn parhau yn Saesneg. “Mae hi’n stori am ddiwylliant a hunaniaeth. A hawlio’r rhan honno o dy hun, a bod yn falch o fod yn Gymro.
“Mae’n rhaid i Gymru nawr ystyried o ddifri gwneud rhagor o gynyrchiadau Cymraeg. O wneud y sioe yma, ry’n ni’n gobeithio bod pobol yn deall pa mor bwysig yw dysgu’r iaith oherwydd ei fod yn rhan o’n hunaniaeth ni. Wrth dyfu lan yng Nghaerdydd, byddwn i’n teimlo fy mod ar wahân. O ddod yma a gwneud hwn, ro’n i’n teimlo – waw, na, rydw i’n Gymro. Roedd y bois yma yn dweud ‘wyt ti berchen ar y rhan yna o dy hun’.”
Bu canmol ar y noson i’r actores Mali Grooms fel y ‘Plentyn’. Doedd e ddim yn rhan hawdd – roedd hi ar y llwyfan o’r dechrau un, yn ymateb i’r prif gymeriadau heb yngan gair, cyn hawlio rhan amlycach fel Gwern, mab Branwen a Matholwch. Roedd hi’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed ar y noson agoriadol, ond mae hi’n actio ers dechrau mynd i ysgol ddrama Stagecoach pan oedd yn saith oed.
“Oedd e’n really hwyl,” meddai, yn wên i gyd. “Unwaith ro’n i arno, ro’n i’n nerfus iawn. Y tro cyntaf ro’n i’n cerdded ar draws y llwyfan, yna fe wnes i anghofio bod pawb yna. Roedd e fel dress rehearsal.”
Argraffiadau Non Tudur
Mae Branwen: Dadeni yn sioe sydd i raddau yn dinistrio delfrydau, gan fod nifer fawr o’r gynulleidfa yn gyfarwydd, neu’n lled gyfarwydd, â’r chwedl hynafol. Ond mae hi’n gwneud hynny yn hyderus ac yn herfeiddiol, gyda Mared Williams yn rhoi perfformiad cyfareddol drwy gydol y sioe.
Nid cawr o frenin cryf yw Bendigeidfran (Tomos Eames) ond teyrn sydd yn rheoli ei chwaer, ac yn gweiddi’n gas o hyd – sydd yn dryllio ein delwedd ohono. Mae Matholwch (Rithvik Andugula) yn frenin mwy hoffus, hyd yn oed wedi iddo droi tu min tuag at Branwen. Gwnaeth yr actor, sydd wedi dychwelyd at ei Gymraeg iard ysgol, waith aruthrol yn dysgu’r llinellau, a’i lais yn gadarn. Dyma un i’w wylio yn y dyfodol, yn y ddwy iaith.
Merch yw’r dihiryn enwog Efnisien (Caitlin Drake) yn y sioe yma – nid oes sôn am Nisien, y brawd arall (nac am y drudwy enwog chwaith). Roedd perfformiad Caitlin Drake yn arbennig o gryf, a hawdd yw gallu ystyried Efnisien fel menyw. Anoddach, am ryw reswm, yw derbyn mai benywaidd yw Gwern, plentyn Branwen a Matholwch, ac mae hynny yn ei hun yn codi cwestiwn amserol.
Fe gafodd Gillian Elisa (Branwen wreiddiol sioe gerdd hyfryd Endaf Emlyn a Hywel Gwynfryn yn y 1970au, Melltith ar y Nyth) ymateb cynnes iawn gan y dorf am ei rhan fel ‘Ena’, cynghorydd Matholwch. Roedd chwerthin mawr mewn ymateb i’w sylwadau crafog, gan ysgafnhau ar ddwyster y sioe.
Roedd ambell gân yn araf a swynol, a llawer un yn fyrlymus o ddramatig, a safon y gerddoriaeth a’r gerddorfa yn arbennig. Roedd y gerddoriaeth ychydig yn rhy uchel ar brydiau i rywun allu deall y geiriau yn iawn, a dywedodd sawl un wedi’r sioe eu bod wedi dibynnu ar yr uwchdeitlau Saesneg i ddilyn y stori.
Mae hi’n sioe waedlyd, gyda rhegi ac awgrym o ryw. Mae yna olygfa arbennig o dywyll tua’r diwedd, a daniodd ebychiad o fraw drwy’r theatr. Tybed a ddylai sioe gerdd fel yma – er mor heriol ei sgôp a’i uchelgais – fod wedi cynnwys yr olygfa?
Mae’r ymateb i’r sioe felly yn amrywio. Rhai yn dotio’n llwyr â’r gwaith newydd cyffrous, eraill damaid yn fwy beirniadol. Dywedodd un ar y cyfryngau cymdeithasol fod yr ‘holl newidiadau i’r stori’ a’r ‘gweiddi-canu’ wedi bod ‘yn ormod’.
Ond yr hyn sydd yn aros yn y cof yw grym y canu a’r gerddoriaeth, a pherfformiadau nodedig, yn arbennig Mared Williams a Caitlin Drake, a dehongliadau newydd, cyffrous ar hen, hen stori.
Yn Golwg heddiw mae’r canwr Rhys Meirion yn rhoi ei farn. Mae’n cloi fel yma: “Mae’n bwysig mynd i’r theatr a gweld rhywbeth newydd fel hyn â meddwl agored, a mynd efo fo. Mae hi’n bwysig bod pethau newydd fel hyn yn herio cynulleidfa, ac mi oedd hwn bendant yn gwneud hynny, yn llwyddiannus iawn.”
Mae hi’n “freuddwyd” gan y criw fynd ati i addasu rhagor o’r hen chwedlau. “Os oes yna ddigon o gynulleidfa eisiau, rydan ni yma i wneud yr holl Fabinogi,” meddai Seiriol Davies yn Golwg.
(Dyma addasiad o erthygl sydd yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Golwg – ar gael mewn siopau ac ar golwg+