Mae enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod yr Urdd eleni yn paratoi i lansio’r dyddiadur gofidiau cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Gwilym Morgan o Sain Ffagan yng Nghaerdydd, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, wedi bod yn dylunio a gwerthu llyfrau nodiadau dwyieithog wedi’u hysbrydoli gan deithio a ‘dyddiaduron gofidiau’ ar ei is-safle Amazon, GM Notebooks, ers 2021.
Yn ddiweddarach y mis yma, bydd yn cyhoeddi’r ‘dyddiadur gofidiau’ cyntaf yn y Gymraeg yn y gobaith y bydd mwy o siaradwyr Cymraeg yn teimlo bod cefnogaeth ar gael i ymarfer lles meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar yn yr iaith maen nhw fwyaf cyfforddus ynddi.
Helpu ei chwaer yn sbardun i’r busnes
Doedd Gwilym Morgan, sy’n gobeithio astudio Cymraeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn nesaf, erioed wedi dychmygu y byddai’n entrepreneur rhan-amser yn 15 oed.
Ond pan fu ei chwaer fach yn dioddef gyda gorbryder y mentrodd e greu ei ‘ddyddiadur gofidiau’ cyntaf.
“Roedd fy mam wedi clywed am fuddion ysgrifennu mewn dyddlyfr ar-lein, ac yn edrych am un ar gyfer fy chwaer, ond roedd y dyddiaduron gofidiau welodd hi i gyd yn ddrud iawn, felly wnes i geisio gwneud un fy hun.
“Gan ddefnyddio Canva, dyluniais ddyddiadur gofidiau yn ôl chwaeth fy chwaer fach, a’i lenwi ag adrannau oedd o fudd iddi, gan gynnwys lleoedd i gofnodi ei phryderon wythnosol, ei meddyliau dyddiol a’i nodau tymor hir.
“Fe wnaeth y dyddiadur gofidiau wir helpu fy chwaer i reoli ei gorbryder, a rhoddodd y syniad i mi ddechrau eu gwerthu ar Amazon.”
Cefnogaeth gan y llywodraeth
Lansiodd Gwilym Morgan GM Notebooks gyda chymorth gan Syniadau Mawr Cymru, gwasanaeth sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cefnogi unrhyw un rhwng pump a 25 oed i ddatblygu syniad busnes.
Daeth e o hyd i’r gwasanaeth fis Hydref y llynedd, wrth fynychu diwrnod gyrfaoedd gafodd ei gynnal gan ei ysgol.
Daeth i gysylltiad â’r Cynghorydd Busnes Jason McLoughlin i gefnogi gyda chynhaliaeth a datblygu ei syniad busnes.
“Wnes i erioed fynd ati i fod yn entrepreneur,” meddai.
“Dechreuodd Llyfrau Nodiadau GM fel ffordd o arbed arian a chefnogi fy chwaer, a buan iawn y daeth yn brosiect hwyliog ar ôl ysgol sydd â’r grym i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio eu Cymraeg.
“Mae Jason a Syniadau Mawr Cymru wedi bod yn system gefnogaeth wych ac maen nhw bob amser yno i’m helpu i ddatblygu fy syniadau.
“Maen nhw wedi gwneud rheoli ysgol a rhedeg busnes gymaint yn haws.”
‘Synnu nad oes mwy o ddyddiaduron gorbryder Cymraeg’
Mae busnes Gwilym Morgan yn cyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy’n nodi gweledigaeth i weld nifer y bobol sy’n gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.
“Rwy’n synnu nad oes mwy o ddyddiaduron a deunydd ysgrifennu gorbryder Cymraeg yn gyffredinol,” meddai, wrth drafod pam ei bod yn bwysig ychwanegu mwy o Gymraeg at ei fusnes.
“Rwy’n eiriolwr enfawr dros gefnogi pobol sydd eisiau defnyddio neu ymarfer eu Cymraeg ym mhob agwedd ar eu bywyd.”
Ochr yn ochr â dyddiaduron pryder, mae Gwilym Morgan hefyd yn gwerthu ei lyfrau nodiadau ei hun sydd wedi’u hysbrydoli gan deithio, ac wedi eu gorchuddio â ffotograffau gafodd eu tynnu ar ei deithiau, sydd wedi dal diddordeb prynwyr o’r Eidal a’r Unol Daleithiau.
Mae e hefyd wrthi’n trafod gyda siopau annibynnol ledled Caerdydd i ddechrau gwerthu ei lyfrau nodiadau.
“Mae’n wych gweld myfyrwyr fel Gwilym yn adeiladu eu busnesau eu hunain, er budd y rhai o’u cwmpas,” meddai Jason McLoughlin.
“Gall fod yn straen rhedeg busnes ochr yn ochr â chwblhau eich Safon Uwch, ond dyna pam rydyn ni yma, i gefnogi unrhyw un, waeth beth fo’u hoedran neu eu hamgylchiadau, i adeiladu busnes llewyrchus o’u syniad.”