Mae Cân i Gymru 2024 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Arena Abertawe ar Ddydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf, gyda nifer o elfennau newydd ar y noson.
Osian Huw Williams, cyn-enillydd y gystadleuaeth a phrif leisydd Candelas, fydd yn cadeirio’r rheithgor, yn mentora’r cystadleuwyr ac yn cyflwyno’r tlws ar ei newydd wedd.
Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol hefyd yn ennill £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.
Dyma’r ail a’r drydedd wobr fwyaf yn hanes y gystadleuaeth.
Bydd cyfle i wylio’r noson fawr yn fyw ar S4C, gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno’r noson.
Yn ôl yr arfer, bydd nifer o bartïon gwylio Cân i Gymru yn cael eu cynnal, a bydd y rhaglen yn annog y partïon i fod yn rhan o’r digwyddiad byw.
Bydd cyfle i bobol ymuno â’r cyffro yn fyw yn Arena Abertawe, a bydd tocynnau ar gael i’w archebu yn fuan iawn.
Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener 5ed o Ionawr.
Caiff y cystadleuwyr fydd yn perfformio yn y sioe fyw eu cyhoeddi ar ddydd Llun, Chwefror 12.
‘Wastad yn ddifyr, wastad yn hwyl’
“Dwi’n hynod gyffrous o fod yn cadeirio’r rheithgor beirniadu achos mi fydda i’n cael dweud pwy dwi eisiau gweithio efo, ond hefyd dwi wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth fy hun o’r blaen ac mae o wastad yn ddifyr, wastad yn hwyl, felly mae cael bod yn fwy o rhan ohono fo yn hynod gyffrous,” meddai Osian Williams.
“Mae’r elfen gyfansoddi yn bwysig iawn achos mae o’n rhoi platfform cenedlaethol i rywun, yn enwedig pobol ifanc sy’n dechrau allan, fatha pan wnaethon ni guro nôl yn 2013, mae’n cael dy enw di allan yno.
“Cerwch amdani – does yna ddim byd yn stopio chi, boed o’n chi ben eich hunan yn llofft efo ychydig o ganeuon neu efo un gân, neu bod chi efo band, dydach chi ddim yn gwybod be’ wneith ddigwydd.”
Mae’r holl fanylion ar wefan S4C.