Bydd siop Gymraeg yr Wyddgrug yn dathlu hanner can mlynedd yr wythnos nesaf.

Agorodd Siop y Siswrn ym mis Tachwedd 1973, a bydd Dafydd Iwan, Alun Ffred a Nic Parry yn helpu’r siop i ddathlu’r hanner canrif.

Daeth Selwyn Evans yn rheolwr ar y siop lyfrau yn 1981, ac mae o a’i wraig, Anne, yn gydberchnogion a rheolwyr erbyn hyn.

Ynghyd â gwerthu llyfrau, mae’r siop yn gwerthu cardiau ac anrhegion Cymraeg, a bu’n gartref i oriel am ryw dri degawd cyn y pandemig.

Cwmni cydweithredol oedd y siop yn y gogledd-ddwyrain i ddechrau, ac mae’r diolch am gyrraedd yr hanner cant yn mynd i ryw 40 aelod wnaeth frwydro a chyfrannu at y fenter ar y dechrau, meddai Selwyn Evans.

“Mae rhywun yn teimlo’n falch, wrth gwrs, ac fel mae geiriau’r gân gan Dafydd Iwan yn ei ddweud – ein bod ni yma o hyd,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl fod yna ddiolch enfawr i’r rhai frwydrodd, gafodd y weledigaeth yn y 1970au, ein bod ni yma a’n diolch ni’n fawr iawn, iawn iddyn nhw.

“Nid yn unig ni’n bersonol ond y cannoedd ar gannoedd o bobol sy’n caru Cymru yn y gogledd-ddwyrain.”

‘Fflach o syniad’

Bydd y dathliadau’n dechrau nos Lun, Tachwedd 13 yng Nghlwb Golff yr Wyddgrug, gyda noson i ddathlu llwyddiant Alun Ffred, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda Gwynt y Dwyrain, a Nic Parry, drwy gefnogaeth Y Lolfa.

“Mae’r dathliadau yma wedi dod at ei gilydd trwy ddamwain,” meddai Selwyn Evans.

“Eisteddfod eleni doedd yna ddim byd ar y gweill, ac mi gaethon ni fflach o syniad pan gododd Alun Ffred i gael Gwobr Goffa Daniel Owen.

“Roedd Alun Ffred yn arfer byw yn y dref yma, pan oeddwn i yma’n gweithio efo’r Urdd cyn cymryd y siop, dyna’r cyfnod, ac roedden ni’n dipyn o ffrindiau felly dyma gysylltu.

“Roedd trio cael dyddiad wedyn oedd yn siwtio dau ddyn andros o brysur – Alun Ffred a Nic Parry – mi ddiweddon ni fyny efo wythnos nesaf.

“Cyd-ddigwyddiad llwyr ydy hwnnw, bod o’r wythnos dathlu’r hanner cant.”

Ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 18), bydd dathliad yn Siop y Siswrn gyda “bybls a briwsion” o 11 o’r gloch ymlaen, a Dafydd Iwan yn torri’r gacen am 3 o’r gloch ac yn llofnodi ei lyfr newydd, Still Singing ‘Yma o Hyd’.