Mae Carol Vorderman wedi cyhoeddi ei bod hi’n gadael BBC Radio Wales, ar ôl bod yn trydar ei gwrthwynebiad i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
Bu’n cyflwyno rhaglen foreol ar yr orsaf ers pum mlynedd.
Mewn datganiad ar X (Twitter gynt), mae’r gyflwynwraig gafodd ei magu yng Nghymru wedi cadarnhau ei bod hi wedi torri canllawiau’r Gorfforaeth.
Dywed fod y BBC wedi cyflwyno canllawiau newydd yn ddiweddar ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, a’i bod hi’n eu “parchu” nhw.
Er mai rhaglen ysgafn roedd hi’n ei chyflwyno, heb gynnwys gwleidydol, eglurodd y BBC fod y canllawiau’n berthnasol iddi hithau a’i holl gynnwys hefyd.
Ond mae hi’n dweud nad yw hi’n “barod i golli llais ar y cyfryngau cymdeithasol” na newid pwy yw hi, na “cholli’r gallu i fynegi safbwyntiau cryf am y cythrwfl gwleidyddol mae’r wlad hon ynddi”.
Ychwanega nad yw hi’n “barod i stopio” beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod “rheolwyr BBC Cymru wedi penderfynu bod rhaid gadael”.
“Diolch yn fawr iawn i chi i gyd,” meddai wedyn yn Gymraeg.