Bydd Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru’n dychwelyd i Ynys Môn am y tro cyntaf ers deng mlynedd fory (Tachwedd 18).

Mae’r trefniadau wedi bod ar y gweill ers dros flwyddyn, a’r sir yn gwybod eu bod nhw’n cynnal yr Eisteddfod ers cyn y pandemig.

Chwech o glybiau sydd yn y sir, sy’n golygu ei bod hi ymysg y siroedd â’r cyfanswm lleiaf o glybiau, ond mae’r Eisteddfod yn gyfle i ddangos be all criw bach lwyddo i’w wneud, meddai Manon Wyn Rowlands, Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Ynys Môn.

Fe fydd clybiau ledled Cymru’n heidio i Bafiliwn Llaethdy Mona, cartref Sioe Amaethyddol Sir Fôn, fory i gymryd rhan mewn 24 o gystadlaethau.

“Mae hi’n fraint arbennig cael yr Eisteddfod draw yn Sir Fôn,” meddai Manon, sy’n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhosybol, wrth golwg360.

“Mae deng mlynedd ers iddi fod yma ddiwethaf a honno oedd fy Eisteddfod gyntaf i fel aelod o’r mudiad.

“Roedd hi’n braf gweld cefnogaeth dda i’r pwyllgor gydag aelodau o’r Eisteddfod ddeng mlynedd yn ôl yn dychwelyd i’n helpu ni a rhannu ambell tip gan ein bod ni’n cynnal yr Eisteddfod yn yr union leoliad.

“Mae’r Eisteddfod wedi bod yn ffocws mawr i ni dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn sicrhau sioe dda i bawb.

“Mae o wedi bod yn gyfle i hyrwyddo’r ardal leol, cynnig gwaith i gwmnïau a busnesau lleol ac yn llwyfan arbennig i arddangos yr holl ddoniau sydd gennym ni yma ym Môn.”

‘Gweithio’n ddiflino’

Mae criw gweithgar yr ynys wedi bod wrthi’n paratoi’r pafiliwn yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan eu bod nhw’n dechrau â chynfas wag, fwy neu lai.

“Mae lleoliad Cae Sioe Mona yn berffaith i gynnal yr Eisteddfod, ac rydyn ni’n ffodus iawn o gefnogaeth y Sioe er mwyn gallu ei chynnal yno,” ychwanega Manon.

“O ganlyniad rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n ddiflino yr wythnos yn arwain tuag at yr Eisteddfod i sicrhau fod popeth yn ei le mewn digon o amser.

“Dw i’n gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn dychwelyd yn ôl yma eto ymhen deng mlynedd, er fydda i ymhell dros oedran cystadlu erbyn hynny!”

Gwaith paratoi at yr Eisteddfod

Cystadleuaeth y côr yn uchafbwynt

Ynghyd ag edrych ymlaen at berfformio ei hun mewn eitemau ysgafn fel y Sgets a’r Ddeuawd Ddoniol, mae Manon yn rhagweld mai’r uchafbwynt i aelodau Môn fydd cystadleuaeth y côr.

Catrin Angharad, sy’n llais cyfarwydd ar Radio Cymru ac yn gyfansoddwraig adnabyddus, sy’n gyfrifol am ddarn y côr eleni.

“Pleser ydy cael bod yn rhan o’r côr eleni gan nad oes Côr Sirol wedi bod yn Sir Fôn ers ambell flwyddyn,” ychwanega Manon.

“Rydyn ni’n hynod ffodus o fod wedi cael Catrin Angharad i gyfansoddi darn mor arbennig i ni, ac yna ein harwain a’n dysgu erbyn llwyfan Eisteddfod CFfI Cymru.

“Rydyn ni fel côr yn cael cloi holl gystadlu’r diwrnod gan mai ni fydd y côr olaf i berfformio.”

Catrin Angharad

‘Rhowch i Mi’ ydy’r darn ar gyfer y côr, ac eglura Catrin Angharad fod dylanwad Covid ar y gân.

“Dw i’n edrych ymlaen yn arw i glywed y corau eraill yn canu’r darn,” meddai wrth golwg360.

“Roedd gweithio o adre’n oce i ddechrau, ond erbyn hyn rydyn ni bedair blynedd mewn i weithio o adre, a phobol yn dechrau teimlo’u bod nhw’n colli gweithio efo tîm a mynd mewn bob dydd.

“Ond y syniad ydy ein bod ni’n lwcus o fedru defnyddio cefn gwlad fel dihangfa a noddfa pan ti wedi syrffedu ar y sgrin, pan mae pob dim yn mynd ychydig bach o farn ein bod ni’n lwcus o allu cael dihangfa fel sydd gennym ni yng nghefn gwlad – mynd am dro, mynd i’r cae, ymfalchïo yn natur a chymryd ryw lesiant ohono fo.”