Mae cynllun newydd wedi ei gyhoeddi heddiw (Tachwedd 17) i roi cefnogaeth i bum bardd sy’n awyddus i fod yn gynganeddwyr.

Enw’r cynllun yw Pencerdd, a bydd yn rhaglen blwyddyn o hyd i ddechrau, yn cael ei gynnig gan Lenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Barddas. Bydd yn rhedeg rhwng mis Mawrth 2024 a Mawrth 2025.

Bydd “cynganeddwyr newydd neu led-newydd” yn cael dechrau dysgu’r grefft o ddifri, drwy fynd ar gwrs preswyl yng Nghanolfan Sgrifennu Tŷ Newydd dan arweiniad Rhys Iorwerth a Manon Awst. Yna, byddan nhw’n cael cynnig sesiynau mentora un-i-un gydag athro barddol am flwyddyn gron.

Nod y cynllun yw “rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol”, yn ôl Llenyddiaeth Cymru, trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys.

Er iddyn nhw gydweithio ers blynyddoedd, dyma’r tro cyntaf i Lenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, a Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod, ddod ynghyd i redeg cynllun datblygu dwys, “sydd â’r potensial o feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft yn gynghanedd yng Nghymru”.

‘Mwy cynhwysol’

Yn ôl Aneirin Karadog, Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Barddas, mae’r cynllun yn “gyfle unigryw i do o feirdd ddatblygu eu crefft ym maes y gynghanedd gyda meistri’r Canu Caeth”.

“Mae hyn yn ychwanegiad pwysig wrth i ni geisio sicrhau bod cerdd dafod nid yn unig yn parhau at y dyfodol ond hefyd yn cael ei thrin gan feirdd cywrain eu crefft sydd â meistrolaeth lwyr ohoni.

“Mae hefyd yn gyfle i wneud byd y canu caeth yn fwy cynhwysol ac mae’n fraint i Barddas gael bod yn cyd-weithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar hyn.”

Ychwanega Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, fod y rhaglen yn ychwanegiad i’r “gwaith anhygoel” sydd eisoes yn digwydd ar lawr gwlad i gynnal dosbarthiadau cynganeddu mewn tafarndai a neuaddau pentref.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â’r arbenigwyr draw yn Barddas i ychwanegu cyfle arall i unigolion fentro i fyd unigryw’r gynghanedd,” meddai Leusa Llewelyn.

“Bydd pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu lleisiau newydd, cynnig cefnogaeth hirdymor, a chreu cymuned newydd o gynganeddwyr brwd i annog ei gilydd ac i gymryd rhan yn niwylliant barddol Cymru.”

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw fardd dros 18 oed sy’n newydd neu lled-newydd i gynganeddu, a bydd y ceisiadau ar agor tan Ionawr 3 2024.