Un tro, bu merch yn ei harddegau wrthi’n dysgu ei chrefft fel bardd. Yn ei llofft, sgwennodd am gariad, colled, trawma a gwellhad. Cyflwynodd ei gwaith mewn nosweithiau ‘meic agored’ yn ei hardal leol, gan hefyd ei rannu ar-lein gyda’i chelf gwreiddiol i’w ddarlunio.
Cafodd ymateb cadarnhaol a thyfodd ei chynulleidfa frwd, law yn llaw â’i chasgliad o gerddi. Cofrestrodd ar gwrs ysgrifennu creadigol, a gofynnodd i’w thiwtor am gyngor ar sut i fynd ati i gyhoeddi llyfr.
Cyngor ei thiwtor oedd iddi beidio â hunangyhoeddi, gan y byddai hyn yn tanseilio gatekeepers y gymuned lenyddol, a fyddai hynny ddim yn edrych yn rhy dda. Yn hytrach, ei hargymhelliad oedd i’r bardd hel ei cherddi at gylchgronau llenyddol a mynd ati o ddifri i fireinio’i chrefft, gan aros nes y deuai’r cyfle trwy’r sefydliad.
Ufuddhaodd y bardd i ddechrau, ond ni chafodd lawer o lwyddiant. Yn hytrach na’i darbwyllo, cadarnhaodd hyn ei theimlad mai hunangyhoeddi fyddai’r opsiwn gorau iddi hi. Felly, heb yr un grant, golygydd, cyhoeddwr, na chyllid tu cefn iddi, cyfunodd ei chelf a’i cherddi, a hunangyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth trwy CreateSpace, sef un o’r platfformau ar-alw sydd yn eiddo i Amazon.
Enw’r bardd dan sylw oedd Rupi Kaur… a dwi’n meddwl bod pawb yn gwybod beth ddigwyddodd nesaf. Ond rhag ofn nad ydych yn ymwybodol o’i stori, gwerthodd filiynau o gopïau o’i llyfr cyntaf Milk and honey, a bu’r llyfr ar y rhestr ‘gwerthwyr gorau’ gan y New York Times. Aeth ei hail lyfr, The Sun and Her Flowers yn syth i rhif un ar yr un rhestr!
Yn ôl troed Rupi
Nawr te, dyma chi stori wefreiddiol i unrhyw fardd sydd eisiau cyhoeddi cyfrol copi caled o’u barddoniaeth neu ryddiaith, ond sydd heb lwyddo i ddenu cefnogaeth y sefydliad (a hynny er gwaethaf ryw ugain mlynedd o drio gan rai ohonom!).
Fel entrepreneur-fardd, dangosodd Rupi Kaur ei bod yn bosib defnyddio Instagram fel ffenest siop i’ch barddoniaeth a chelf, ac yna eu printio a’u dosbarthu’n ddi-ffwdan trwy Amazon, heb fod yr un geiniog allan o boced.
Ac ydi, mae hi’n bosib, wrth gwrs, hunangyhoeddi gan brintio cyfrolau trwy gwmnïau printio, ond i wneud hynny mae’n rhaid cael ychydig o gyfalaf yn y lle cyntaf. Mae ISBN yn costio £91.00, ac mae costau printio a chludo ar ben hynny.
Ac i’r sawl ohonom sydd ddim yn independently wealthy, ac heb bocedi llawn arian cyhoeddus, gan nad ydym wedi llwyddo eto i ddysgu sut i chwarae’r gêm, tydy hynny fel man cychwyn jyst ddim yn opsiwn.
Cael help hefo’r cyhoeddi
Clywais stori Rupi am y tro cyntaf gan yr artist cymunedol Natasha Borman, mewn gweithdy am gyhoeddi yn ‘Hwb Menter Wrecsam’ (sydd yn anffodus erbyn hyn wedi cau). Roeddwn yn barod wedi gweld safon boddhaol y math yma o lyfrau pan wnes i gwrdd â Stephen ‘Doctor Cymraeg’ Rule am y tro cyntaf mewn ffair lyfrau yn yr Wyddgrug.
Nawr, dyma’r cadarnhad roeddwn ei hangen, darn ola’r jigso – gwyddwn fod Rupi yn uchel ei pharch yng Nghymru fel un o’r Instafeirdd gwreiddiol, ac felly os oedd Amazon yn ddigon da i Rupi, roedd yn ddigon da i finnau hefyd!
Digwyddais daro mewn i Stephen Rule ar faes Eisteddfod Tregaron; cyfarfod tyngedfennol. Penderfynom greu’r podlediad Doctoriaid Cymraeg, a chynigodd Stephen fy helpu i daclo’r gremlin technolegol oedd yn rhwystr i mi ar Kindle self-publishing, a hunangyhoeddi Trawiad | Seizure, pamffled dwyieithog o farddoniaeth.
Gyda help Stephen ac ambell i ffrind yn prawf-ddarllen, paratoais y pamffled a phwyso ‘cyhoeddi’. Synnais ynghylch pa mor sydyn ddigwyddodd pob dim – ymhen ychydig oriau, mi oedd fy llyfr ar gael… ac yna, ar ôl i mi ddechrau tweetio amdano, mi oedd pobol yn ei brynu… yn Ffrainc ac America, yn ogystal a’r Deyrnas Unedig. Ac mi wnaeth un o fy ffrindiau o Kuwait, sy’n dysgu Cymraeg, ofyn os fyswn yn ei osod fel llyfr Kindle! A dwi eisoes wedi gwneud hyn hefyd.
Cywilyddio’r ‘cloudalists’
Yn ei golofn ddiweddaraf, mae fy nghyd-colofnydd Malachy Edwards yn trafod ‘cloudalists’ megis Amazon, gan ddyfynnu safbwyntiau hallt ohonyn nhw gan un o fy hoff wleidyddion, sef Yanis Varoufakis – cyn-Athro Game theory.
Mae Malachy hefyd yn ein hannog i osgoi prynu o blatfformau Amazon, ac yn hytrach i ymweld â siopau llyfrau lleol neu ymofyn llyfrau o’r llyfrgell. Ond nid yw’r pethau hyn yn mutually exclusive mewn gwirionedd.
Dwi’n ddigon barod i gyfaddef fy mod yn gwbl genfigennus o stori Malachy am gyhoeddi ei lyfr Y Delyn Aur trwy’r llwybr traddodiadol, ac rwy’ newydd ei brynu o Siop y Siswrn ac yn edrych ymlaen at ei ddarllen.
Rwy’ hefyd wedi sôn wrth Selwyn ac Anne, y perchnogion, y byddai’n grêt cael gwahodd Malachy draw i’r Wyddgrug i gynnal lansiad neu i arwyddo llyfr yma yn y gogledd-ddwyrain, efallai hyd yn oed yn y siop ei hun.
Ond mi fedrwch hefyd brynu fy llyfr innau yn Siop y Siswrn, ac mae Selwyn ac Anne wedi bod yn gefnogol iawn i mi yn fy ymdrechion ‘hybrid-gyhoeddi’ – yn wir, bu fy llyfr yn ffenest y siop am gyfnod!
Mi fedrwch hefyd fenthyg fy llyfr o’r llyfrgell yn yr Wyddgrug, ac ar draws llyfrgelloedd y gogledd-ddwyrain. Mae hefyd ar gael mewn sawl siop arall ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys Palas Print a Chanolfan Ucheldre ym Môn.
Digon o le i bob un ohonom
Nid pawb sy’n cael diweddglo tylwyth teg i’w stori gyhoeddi, yn enwedig y sawl ohonom sydd â heriau ychwanegol, megis anghenion addysgol arbennig.
Yn y gorffennol, byddwn wedi gorfod derbyn na chaf fi fyth mo’r cyfle i rannu fy stori a fy llais, gan nad wy’n ffitio delwedd y cyfalafwyr o’r trigolyn perffaith – yr hyn sydd wrth wraidd ablaeth a sawl math arall o ragfarn ac anghydraddoldeb.
Ond fel y gwelir yn stori Rupi Kaur, mae ‘Cloudalists’ megis Amazon wedi democrateiddio’r broses gyhoeddi i ni, a chynnig llwybr amgen, ‘inter mundos’.
Ac yn ddigon smala, rwy’ wedi gwerthu sawl copi o fy llyfr erbyn hyn, gan gynnwys mewn digwyddiad yn ddiweddar lle fues i’n rhannu fy ngwaith fel bardd; dyma blatfform lle cefais y teimlad prin hwnnw o gael fy mharchu fel bardd.
Ac felly, er na feddyliais y byddwn yn siarad yn erbyn Yanis, na Malachy, dyma fi yn eich annog i beidio â chau eich meddyliau i’r ystod eang o lyfrau sydd ar gael ar bob math o blatfformau, am amrywiaeth o resymau cymhleth, gan mai dyma’r ffordd orau i anwesu amrywiaeth o lenyddiaeth, heb eithrio lleisiau neb, jyst oherwydd eu bod nhw wedi bod yn llai llwyddiannus na’u cyfoedion; mi rydyn ni i gyd yn wahanol, ac eto yn haeddu’r cyfle i rannu ein lleisiau.