Bydd Bryn Terfel yn rhyddhau casgliad newydd o siantis a chaneuon gwerin yn gysylltiedig â’r môr flwyddyn nesaf.

Fe fydd Sea Songs allan ym mis Chwefror flwyddyn nesaf, ac mae’r cerddor wedi cydweithio ag artistiaid gwadd gan gynnwys Sting, Calan, Eve Goodman, y bariton Syr Simon Keenlyside a Fisherman’s Friends o Gernyw yr albwm.

Daw’r caneuon o arfordiroedd Cymru, Lloegr, Iwerddon, Ynysoedd y Shetland, Llydaw a thu hwnt, ac mae’r holl alawon wedi cael eu trefnu o’r newydd gan y cerddor gwerin Patrick Rimes.

Mae’r albwm yn olrhain y cysylltiadau cryf sy’n clymu cymunedau morwrol gwahanol genhedloedd ynghyd ac yn dathlu eu traddodiadau cerddorol cyffredin.

“Galwad y môr”

“Ni allaf ddechrau esbonio pa mor hynod wefreiddiol yw dychwelyd at siantis môr a chaneuon gwerin y môr,” meddai Bryn Terfel.

“Mab fferm o Ogledd Cymru sydd wastad wedi bod ag obsesiwn braidd ag arfordir 360 milltir Gogledd Cymru – Porthmadog, Pwllheli, Nefyn, i enwi ond ychydig o lefydd a oedd bob amser yn harbwr diogel i mi i ffwrdd o’r drefn feunyddiol: pysgota, nofio, cychod a rhaffau a phopeth morwrol gyda diwrnodau allan ar y môr yn gorffen gyda gwydraid o wisgi neu rym i’w groesawu ar ddiwedd y dydd.

“Mae galwad y môr yn gryf ac felly hefyd yr alwad i ganeuon gwerin fy mamwlad.”