Mae’r sioe fawr uchelgeisiol am un o chwedlau’r Mabinogi wedi rhoi cyfle euraid i ddoniau Cymru ddisgleirio, yn ôl y cyfansoddwr…

Roedd cynnwrf i’w deimlo yn yr awditoriwm cyn perfformiad cyntaf Branwen: Dadeni yn theatr fawr grand Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Bron i 2,000 o bobol ar bigau’r drain eisiau gweld ffrwyth llafur cast a thîm creadigol dawnus yn adrodd un o chwedlau enwocaf ein hanes.