Roedd Harri’n gwybod sut i gadw’i fedalau’n sgleiniog. Finag a bicarbonate of soda, cadach bychan o gotwm gwyn, a chyffyrddiad ysgafn, fel tasa rhywun yn glanhau plu aderyn bach. Dros y blynyddoedd, roedd Harri wedi dysgu fod cyffyrddiad ysgafn yn fwy grymus na nerth bôn braich. Roedd o’n difaru weithiau na ddysgodd o’r wers honno’n gynt.
gan
Manon Steffan Ros