Ar drothwy dwy gêm dyngedfennol i dîm pêl-droed y dynion, Gwilym Dwyfor sy’n cynnig rhagflas…

Dyma ni, bedair wythnos wedi’r noson gofiadwy honno’n Stadiwm Dinas Caerdydd, mae Rob Page a’i chwaraewyr yn ôl i orffen y job yn erbyn Armenia a Türkiye. Rhoddodd y fuddugoliaeth wych honno yn erbyn Croatia fis Hydref dynged Cymru yn eu dwylo eu hunain wrth i ni deithio i Yerevan i herio Armenia ddydd Sadwrn cyn croesawu’r Tyrciaid i Gaerdydd nos Fawrth.

Dwy fuddugoliaeth ac fe fydd Cymru ar y ffordd i’w trydydd twrnamaint mawr rhyngwladol yn olynol a’r pedwerydd o’r pump diwethaf! Mae yna ambell i sefyllfa arall ble fyddai llai na chwe phwynt yn ddigon ond mae’r rheiny’n annhebygol iawn mewn gwirionedd felly llawer haws yw canolbwyntio ar y brif gôl, ennill y ddwy.

Mae gennym ni gemau ail gyfle yn y boced dîn diolch i Gynghrair y Cenhedloedd ond fyddai’r rheiny ddim yn hawdd o bell ffordd felly fe gânt aros yn y boced dîn am y tro! Hwn yw’n cyfle gorau ni heb os.

Y garfan

Ag un eithriad sylweddol o’r enw Aaron Ramsey, bu Page yn gymharol ffodus y tro hwn o allu dewis carfan heb lawer o anafiadau na gwaharddiadau. Gan ystyried hynny a phwysigrwydd y ddwy gêm, nid oedd unrhyw syndod mawr wrth iddo enwi’r garfan honno’r wythnos diwethaf.

Mae rhai o’r enwau newydd a gafodd gyfle’r tro diwethaf, Joe Low, Owen Beck, Charlie Savage a Luke Harris, wedi dychwelyd i garfan dan 21 Matty Jones. Yn wahanol i’r tro hwnnw, nid oes gêm gyfeillgar y tro hwn felly mae’n gwneud synnwyr eu bod nhw’n dychwelyd i helpu’r tîm iau, sydd â dwy gêm bwysig eu hunain, yn erbyn Gwlad yr Iâ a Denmarc.

Un arall sydd yn y garfan honno, ond sydd â thipyn mwy o brofiad gyda’r tîm cyntaf yw Rubin Colwill. Roedd ambell un (cefnogwyr Caerdydd yn bennaf) yn meddwl ei bod hi’n amser iddo ddychwelyd i garfan Page yn dilyn ambell berfformiad da diweddar i’r Adar Gleision. Ond y gwir amdani yw mai serennu oddi ar y fainc mae o i’w glwb, nid dechrau gemau, ac mae’n amlwg fod dychwelyd at y tîm dan 21 ar lefel genedlaethol wedi gwneud lles iddo.

Yr unig sypreis yng ngharfan Page mewn gwirionedd oedd y di-gap, Niall Huggins o Sunderland. Sypreis efallai, ond mae’n gwneud synnwyr. Mae angen opsiwn arall yn safle’r cefnwr/ôl asgellwr. Mae cryn ddibyniaeth ar Connor Roberts a Neco Williams yn y safleoedd hynny ac mae gofyn i’r ddau chwarae 180 munud mewn pedwar diwrnod, gyda thaith hir yn y canol, yn her. Golyga absenoldeb hir dymor Rhys Norrington-Davies fod rhaid lledaenu’r rhwyd.

Er bod Sorba Thomas yn chwarae’n gyson i Huddersfield, nid yw Page yn ei ffansïo fo bellach am ryw reswm. Mae Wes Burns yn un arall sy’n gallu llenwi’r bwlch ond nid yw ef wedi chwarae llawer ers dioddef anaf i’w ysgwydd yn erbyn Gibraltar fis diwethaf. Fe wnaeth o ymddangos oddi ar y fainc i Ipswich dros y penwythnos serch hynny felly ymddengys ei fod yn holliach ac mai colli ei le i Huggins yn hytrach nag i anaf a wnaeth o’r tro hwn.

Beth ydym yn ei wybod am Huggins felly? Mae o wedi dechrau pob gêm i Sunderland ers canol mis Medi, weithiau ar y chwith a dro arall ar y dde. Siawns fod yr hyblygrwydd hwnnw wedi apelio at Page. Mae o’n parhau’n gymharol ddibrofiad serch hynny, dim ond 22 gêm glwb mae’r chwaraewr 22 oed wedi chwarae yn ei yrfa, ond mae dros hanner rheiny wedi dod y tymor hwn. Mae o wedi ymddangos i dîm dan 21 Cymru bedair gwaith hefyd ond os gaiff o unrhyw fath o ymddangosiad yn erbyn Armenia neu Türkiye, honno fydd gêm fwyaf ei yrfa heb os. Ychwanegwyd Jay Dasilva i’r garfan yn hwyr hefyd, opsiwn arall yn safle’r cefnwr.

Y newyddion pwysicaf oedd bod y ddau o Tottenham, Ben Davies a Brennan Johnson, yn y garfan. Dychwela Johnson ar ôl methu hanner gemau’r ymgyrch gydag anafiadau. Ac roedd amheuaeth am ffitrwydd Davies pan fethodd o gêm Spurs yn erbyn Chelsea ddeg diwrnod yn ôl oherwydd anaf i’w ffêr.

Roedd o’n ôl yn ffit ddydd Sadwrn ac yn syth i mewn i’r tîm am ymddangosiad prin o dan Ange Postecogleu oherwydd argyfwng anafiadau a gwaharddiadau. Mae presenoldeb Davies yn holl bwysig o ran cael ein un ar ddeg gorau ar y cae ond yn hanfodol o ran ei arweinyddiaeth fel capten hefyd. Dechreuodd Johnson y gêm honno i Spurs hefyd gan sgorio’i gôl gyntaf dros ei glwb newydd. Bydd ei gael o’n ôl fel opsiwn ymosodol arall yn benbleth i’w groesawu i Page. Tri allan o Johnson, Dan James, Kieffer Moore, Harry Wilson a David Brooks fydd hi i ddechrau, ond bydd gan bob un o’r pump rôl i’w chwarae dros y ddwy gêm.

A gair sydyn am Joe Morrell, sydd yn ôl yn y garfan yn dilyn gwaharddiad. Efallai ei fod o wedi colli ei le yn y tîm i Jordan James ond mae o’n parhau i fod yn opsiwn holl bwysig i ni mewn safle sydd â diffyg dyfnder difrifol, angori canol cae.

Y gwrthwynebwyr

Beth ydym yn ei wybod am y gwrthwynebwyr felly? Mwy nag oeddem ni ym mis Mehefin yw’r ateb syml.

Efallai nad oedd hyd yn oed Page wedi gwneud digon o waith cartref ar Armenia bryd hynny, wrth iddo ddewis tîm amharchus o ymosodol yn eu herbyn ar gyfer y golled ddrwg-enwog honno o bedair i ddwy. Lucas Zelarayán a Grant-Leon Ranos a gafodd y goliau’r noson honno, dwy yr un. Goliau gwych oedden nhw hefyd os cofiwch chi, er gwaethaf amddiffyn gwarthus gan Gymru.

Cafodd Ranos bum munud oddi ar y fainc i Borussia Mönchengladbach ddydd Sadwrn ond ar y cyfan, ychydig iawn mae’r blaenwr ifanc yn chwarae yn yr Almaen. Cafodd Zelarayán ei ddenu gan arian mawr Saudi Arabia yn fuan iawn ar ôl ei berfformiad gwych yn ein herbyn ni. Symudodd i’r Dwyrain Canol o Columbus Crew yn America ym mis Gorffennaf ac mae o’n chwarae’n gyson i Al-Fateh, sydd yn gwneud yn reit dda yn y Saudi Pro League. Sut fath o safon sydd i’r gynghrair honno sydd yn gwestiwn arall.

Y newyddion mawr yng ngharfan Türkiye yw absenoldeb y seren ifanc, Arda Güler. Fo sgoriodd y berl yna yn ein herbyn yn Samsun fis Mehefin ac yn fuan iawn wedi hynny fe arwyddodd y bachgen deunaw oed i neb llai na Real Madrid. Dioddefodd y diweddaraf o sawl anaf ers ymuno â Los Blancos yr wythnos diwethaf ac ni fydd yn rhan o garfan yr ymwelwyr i Gaerdydd nos Fawrth. Ond nid fo yw unig seren deunaw oed y Tyrciaid, mae Kenan Yildiz o Juventus yn un arall cyffrous iawn a bydd rhaid bod yn wyliadwrus pan fydd o ar y cae.

Daw’r newid mwyaf ers y gêm gyfatebol, nid ar y cae, ond ar ei ochr. Cyn flaenwr yr Eidal, Vincenzo Montella, sydd bellach wrth y llyw wedi i Stefan Kuntz gael ei ddiswyddo ym mis Medi yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Armenia. (Dyna i chi faint dydyn nhw ddim yn licio’u cymdogion!) Bydd Montella yn gyfarwydd i ffans Cymru craff, enillodd ei gap cyntaf mewn buddugoliaeth o bedair gôl i ddim yn ein herbyn yn Bolognia yn 1999 ac roedd o yn nhîm yr Eidal ar y noson enwog honno yng Nghaerdydd dair blynedd yn ddiweddarach pan gurodd Cymru’r Azzurri o ddwy gôl i un.

Mae talcen caled yn ein hwynebu ond un peth fydd o gymorth mawr yn y ddwy gêm yw sefyllfa’r gwrthwynebwyr erbyn hyn. Er ei bod hi’n fathemategol bosib i Armenia orffen yn y ddau uchaf o hyd, mae hynny’n hynod annhebygol bellach yn dilyn colled annisgwyl yn erbyn Latfia fis diwethaf. Mae Türkiye ar y llaw arall wedi sicrhau lle yn yr Almaen yn barod a siawns y bydd hynny’n hwyluso pethau i ni yn eu herbyn hwy… Gobeithio!