Mae Mr Refferendwm Brexit nôl ar y llwyfan gwleidyddol…

Ar Ddydd y Cadoediad tros y penwythnos bu protestiadau asgell-dde ar strydoedd Llundain ac arweiniodd hyn at ddiswyddiad yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, dros honiadau mai hi oedd yn rhannol gyfrifol am gymell yr ymddygiad treisgar.

Sbardunodd hyn ad-drefniad o gabinet Llywodraeth Prydain a phenodiad annisgwyl cyn-Brif Weinidog yn Ysgrifennydd Tramor.