Go brin mai trefniant brys oedd galw David Cameron yn ôl i fod yn Ysgrifennydd Tramor San Steffan.

Mi wyddon ni ei fod o wedi holi barn rhai cyfeillion a chynghorwyr ymlaen llaw ac mae’n siŵr y byddai Rishi Sunak hefyd wedi mesur cryfder a chyfeiriad y gwynt.

O feddwl, mae’r penodiad yn llai o syndod nag y byddech chi’n meddwl. Mewn ambell ffordd, doedd gan y naill a’r llall fawr o ddewis.