Roedd gan Alun Rhys Chivers, golygydd ein chwaer-wasanaeth golwg360, stori i gynhesu’r cocyls ddechrau’r wythnos hon ar y wefan newyddion.

Bu yn adrodd am y camau breision sydd wedi eu cymryd yn Ysgol Uwchradd Cas-gwent ble mae ganddyn nhw athrawon lleol a thramor sydd wedi ymroi i ddysgu’r Gymraeg i’r 772 o ddisgyblion yno.

Ac ‘yno’ yw tref hynafol Cas-gwent – Chepstow – sydd ychydig filltiroedd o’r ffin â Lloegr yn Sir Fynwy, nid nepell o Sir Gaerloyw.

Am ganrifoedd roedd Sir Fynwy yn cael ei chyfrif yn rhan o Gymru a Lloegr, a dim ond trwy ddeddf yn 1972 y daeth yn rhan ddigamsyniol o Gymru. Teg dweud na fu yn un o gadarnleoedd yr iaith.

A dim ond tair blynedd yn ôl roedd athrawon oedd am ddarparu addysg Gymraeg yno yn cael eu gwawdio gyda’r geiriau: “You will never get them speaking Welsh in Chepstow”.

Ond bu twf yn y diddordeb mewn gwersi Cymraeg yn Ysgol Cas-gwent, ac wedi degawd o fethu, mae Lefel A Cymraeg ar y cwricwlwm.

Mae’r ysgol wedi derbyn gwobr Siarter Iaith haeddiannol, a’r gwersi yn fwy nag addysg am yr iaith – mae’r disgyblion yn dysgu am Gymreictod, enwogion o fri, yr Urdd, S4C, ac yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen.

Ac wrth wraidd y cyfan mae athrawes Gymraeg glodwiw.

“Etifeddais i adran oedd â diffyg hunaniaeth o fewn yr ysgol, gyda disgyblion a staff wedi ymddieithrio ac roedd ganddyn nhw ddiffyg hyder i ddefnyddio’r Gymraeg… roedd agwedd ‘beth yw’r pwynt?’ wedi treiddio yma,” meddai Joe Woodland wrth golwg360.

Ond wnaeth yr agwedd honno ddim para yn hir, wrth i Joe dderbyn cefnogaeth y pennaeth Kelly Waythe ac uwch reolwyr yr ysgol er mwyn galluogi i’r Gymraeg ffynnu.

“Mae llawer o’r staff yn dod o Loegr ac mae drive gyda nhw i dyfu a defnyddio’r iaith,” eglura Joe.

“Mae athrawon gyda ni o Iwerddon a Phortiwgal hefyd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd yn eu gwersi.

“Ers nifer o flynyddoedd nawr, mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhan o’n cynllun datblygu fel ysgol.”

Dyma stori o lwyddiant am yr iaith Gymraeg y dylem ei thrysori – a chyfres deledu ddifyr ar blât.

Beth amdani S4C, beth am ddilyn Ysgol Ni: Y Moelwyn gydag Ysgol Ni: Cas-gwent?

Ac ni fydd gorffwys ar rwyfau draw ar y Gororau.

Fel mae Joe Woodland yn ei gydnabod, mae Ysgol Uwchradd Cas-gwent “yn dal ar y daith i ragoriaeth”.

“Ym mis Awst, cafwyd canlyniadau TGAU gorau erioed yr ysgol, gyda 73% o ddisgyblion yn cyflawni A*-C, gyda phob disgybl yn y flwyddyn yn sefyll yr arholiad Cymraeg.”

Llongyfarchiadau!

Fe gewch y stori – ‘You will never get them speaking Welsh in Chepstow’ – yn ei chyfanrwydd yma.