Mae llyfr newydd yn parchu’r atgof am y bobol ddiwyd hynny a oedd yn arfer byw ar y moelydd unig…

Mae Cymru Gudd yn llyfr ffotograffau sydd ychydig yn wahanol i’r arfer. Mae yn llawn lluniau trawiadol o olygfeydd, ond mae hefyd yn rhoi hanes y bobol sydd y tu ôl i’r hen adeiladau gweigion sydd yn y tirlun.