Mae cantores glasurol wedi rhoi tro newydd electro-rap ar un o ganeuon mwya’r Cymry…

 

Fersiwn newydd ffynci o’r hen glasur ‘Calon Lân’ yw ‘Gofyn Wyf’, sengl gyntaf cantores sy’n cymryd y cyfle i ddangos ochr ‘tyner’ ei llais.

Wedi’i hyfforddi i ganu cerddoriaeth glasurol ers yn saith oed, roedd Leigh Alexandra o Abertawe yn awyddus i drio genre oedd ychydig yn wahanol i’r arfer iddi.