Bydd cyfres newydd yn gyfle i fod yn bry ar y wal yn ysgol uwchradd Blaenau Ffestiniog, gan gynnig mewnwelediad i ddull yr ysgol o annog a meithrin disgyblion.
Mae Ysgol ni: Y Moelwyn yn bortread o fywyd mewn ysgol yn ystod cyfnod y pandemig, ac yn gyfle i fyw bron bob eiliad o’r her a’r hwyl gyda thrigolion ‘Stiniog wrth i’r cyfnodau clo gilio.
Cwmni Darlun, oedd yn gyfrifol am Ysgol ni: Maesincla, sydd wedi cynhyrchu’r gyfres fydd yn dechrau nos Fawrth nesaf (Ionawr 18) ar S4C.
Yn ôl pennaeth yr ysgol, Mrs Eleri Moss, dydi plant methu dysgu os nad ydi’r sylfeini yno, ac mae Ysgol y Moelwyn yn dilyn rhaglen ‘Ysgolion Sy’n Annog’.
Mae chwe egwyddor yn perthyn i’r rhaglen gan Nurture UK, ac mae’r rhaglen yn caniatáu i ysgolion ddatblygu diwylliant o feithrin ac annog.
Pwysigrwydd newidiadau
“Mae yna heriau cymdeithasol, a doedden ni ddim yn teimlo ein bod ni’n cyrraedd rhai plant, ac ein bod ni angen newid,” meddai Eleri Moss, sy’n bennaeth ar Ysgol y Moelwyn ers dechrau’r flwyddyn, ond sydd wedi bod yn ddirprwy yno ers blynyddoedd, wrth egluro eu bod nhw wedi bod yn chwilio am hyfforddiant pan ddaeth hi ar draws rhaglen Ysgolion Sy’n Annog.
Cafodd Eleri Moss a Daniel Bell, Swyddog Cynhwysiad a Theuluoedd yr ysgol, hyfforddiant i ddechrau, bedair blynedd yn ôl, gan ddechrau’n fychan gyda grwpiau penodol o blant, cyn datblygu.
“Rydyn ni wedi hyfforddi staff fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o’r chwe egwyddor, a bod o’n cael ei weithredu ar draws yr ysgol,” eglurodd Eleri Moss wrth golwg360.
“Mae gen ti wedyn grwpiau sy’n cael ymyrraeth yn ôl egwyddorion ysgolion sy’n annog, rydyn ni’n dechrau efo nhw’n Blwyddyn 7, adnabod nhw’n Blwyddyn 6.”
Un o’r chwe egwyddor ydi pwysigrwydd newid ym mywydau plant.
“Mae hwnna’n gallu bod yn rhywbeth mor fach â’u pysgodyn aur nhw’n marw, a’n bod ni’n derbyn fel staff ac yn gwneud ein gorau i’w cefnogi nhw drwy newid,” eglurodd Daniel Bell wrth golwg360.
“Mae o’n medru mynd yn rhywbeth mor fawr â’r trosglwyddiad o ysgol gynradd i’r uwchradd.”
Perthnasau pendant
Mae yna ychydig dros 300 o ddisgyblion yn yr ysgol, a phawb yn adnabod pawb ac yn gweld y gorau, a’r gwaethaf, o’i gilydd, fel y bydd yn dod i’r amlwg yn Ysgol Ni: y Moelwyn.
Y newid mwyaf mae Daniel Bell wedi sylwi arno ers mabwysiadu’r rhaglen yw newid yn y berthynas rhwng staff a disgyblion.
“Mae hwnna wedi mynd o fod yn berthynas ddu a gwyn, os lici di – lle ‘Dw i yma i ddysgu chdi, full stop’ [oedd hi] bum mlynedd yn ôl – i berthynas lle mae staff a phlant yn stopio i sgwrsio ar y coridor yn ystod cinio ac egwyl, mae staff a phlant yn cael sgyrsiau ar ddechrau gwersi am gêm foot, be oedd sgôr rygbi, be wnes di dros y penwythnos…” meddai Daniel Bell.
“Mae yna berthynas bendant rhwng staff a phlant lle maen nhw’n adnabod ei gilydd ar lefel bersonol, nid jyst yn broffesiynol fel staff dysgu.”
Rheoli ymddygiad
Mae’r ffordd mae Ysgol y Moelwyn yn rheoli ymddygiad yn “hollol wahanol” nawr, meddai Daniel Bell.
“Yn hytrach na bod yn codi dy lais, ac yn gweiddi, a dangos pwy ydi bos, ti’n cymryd y ffordd hir rownd hi, eto [gan anelu] at ddatblygu perthynas.”
Mae rhywun yn gweld canlyniadau, meddai Daniel Bell, ond yn gwneud hynny wrth sefydlu perthynas â’r disgybl, drwy sgwrs, meithrin, ac annog “yn hytrach na gweiddi a gweryru, a ’sgen ti ddim math o berthynas efo’r plentyn”.
“Efallai’u bod nhw’n bihafio [wrth weiddi], a ti’n cyrraedd yr un outcome, ond ti heb ddatblygu dim math o ddim byd arall – jyst y ffaith bod nhw’n gwrando ar awdurdod.”
Dydi’r ffordd hon o ddisgyblu ddim yn golygu bod disgyblion yn osgoi goblygiadau eu gweithredoedd, yn ôl Daniel Bell.
“Mae yna bob tro bwyslais ar y ffaith bod yna oblygiadau i bob gweithred, os ydi o’n bositif neu negatif – mae hynny mewn bywyd,” meddai.
“Dydi’r ffaith bod rhywun yn torri rheol neu’n camymddwyn ddim yn golygu bod yna ddim goblygiadau, dydi o ddim yn golygu bod yna ddim cosb cinio, dydi o ddim yn golygu bod yna ddim sgwrs ar ôl y wers am yr ymddygiad.
“Mae o jyst yn golygu, ti’n cyrraedd y lle yna mewn ffordd gwbl wahanol i godi dy lais a gweiddi.
“Mae o’n dod drwy sgwrs, meithrin ac annog, yn lle ‘Reit, ti wedi gwneud hyn, ti mewn amser cinio’.
“Rydyn ni’n cyrraedd yr un lle ag ysgolion eraill o ran goblygiadau, ond rydyn ni’n ei gyrraedd o mewn ffordd wahanol.”
‘Sylw positif’
Efallai y byddai rhai yn gweld y drefn “fel plant yn cael eu ffordd eu hunain neu blant yn cael gormod o sylw”, meddai Eleri Moss, gan bwysleisio bod “rhaid deall y seicoleg”.
“Tydi plant methu dysgu os nad ydi’r sylfeini yna. Mae fel adeiladu wal. A tydi’r sylfeini ddim yn hefo plant sy’n cam-ymddwyn.
“Felly ’da ni’n ail-adeiladu’r sylfeini yna. Dydi hyn ddim o hyd yn hawdd, ond ’da ni’n dechrau pob diwrnod yn newydd, gyda llechen lan, a rydan ni’n trio eto, ac eto.”
Dywed Eleri Moss eu bod nhw am roi amser i ddisgyblion os ydyn nhw’n camymddwyn beth bynnag, felly byddai’n well rhoi’r amser ar y dechrau i’w meithrin a chwrdd â’u gofynion emosiynol.
“Ti’n mynd i roi sylw beth bynnag, so waeth i chdi roi sylw positif a thrio’u helpu nhw,” meddai.
“Un o’r egwyddorion yw bod pob ymddygiad yn ffordd o gyfathrebu, wedyn rydyn ni’n gwneud lot o waith ynglŷn â pham bod y plentyn wedi gwneud hyn.
“Mae pawb yn cael eu heriau. Mae pethau’n digwydd mewn bywyd, pobol yn colli nain, taid, neu mae yna ddamweiniau, neu wrth dyfu fyny maen nhw’n ffeindio heriau emosiynol, meddyliol.
“Ti byth yn gwybod pa blentyn fydd angen chdi, ond y syniad ydi ein bod ni yna ar gyfer pwy bynnag.
“Dw i ddim yn gwybod lle fysa ni heb y rhaglenni sydd gennym ni rŵan.”
- Bydd Ysgol Ni: Y Moelwyn yn dechrau ar S4C nos Fawrth, Ionawr 18 am 9yh.