Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £15.4m o gyllid i gefnogi sectorau’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru wrth i bandemig y coronafeirws barhau.

Mae’r cymorth ychwanegol, fel rhan o drydedd rownd Cronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar gael i’r sector diwylliannol yng Nghymru wrth iddo barhau i gael ei effeithio gan bandemig Covid-19.

Dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, y bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau sydd wedi’u heffeithio gan y mesurau lefel rhybudd 2 sydd wedi’u rhoi ar waith yn ddiweddar.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn lansio’r broses ymgeisio ar gyfer sefydliadau o fewn y sector celfyddydau heddiw (dydd Mercher, Ionawr 12).

Mae cronfa sefydlogrwydd y gaeaf a gafodd ei gyhoeddi eisoes, bellach wedi’i chyfuno â thrydedd rownd Cronfa Adfer y Gaeaf.

Bydd yn cysylltu trwy lythyr, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Ionawr 17, â sectorau eraill a gafodd eu heffeithio, gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, lleoliadau digwyddiadau a threfnwyr, amgueddfeydd lleol annibynnol, llyfrgelloedd cymunedol ac annibynnol, orielau a sinemâu annibynnol a gafodd eu cefnogi’n flaenorol drwy Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

Bydd y llythyr yn  nodi sut mae cael gafael ar gymorth ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cefnogaeth hefyd ar gael i fusnesau a sefydliadau cymwys nad ydyn nhw wedi derbyn cymorth drwy’r Gronfa Adfer Diwylliannol hyd yma, sy’n gallu bodloni’r meini prawf.

I fod yn gymwys, bydd yn rhaid i fusnesau hunanddatgan eu bod wedi gweld effaith sylweddol drwy lai o drosiant rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022.

‘Amgylchiadau anodd’

“Rydym yn gwbl ymwybodol fod ein sectorau celfyddydau a diwylliant yn parhau i wynebu pwysau newydd, a dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor y Celfyddydau i sicrhau bod yr arian ychwanegol hwn ar gael cyn gynted â phosibl,” meddai Dawn Bowden.

“Mae’r arloesedd a’r gwydnwch a ddangoswyd gan y bobl a’r sefydliadau sy’n gwneud y sectorau yma mor fywiog wedi bod yn rhyfeddol – rydym am sicrhau bod y sector yn parhau i chwarae rhan yn ein hadferiad o’r pandemig ac wrth ddod â phobl at ei gilydd unwaith eto.

“Mae’r sector diwylliant hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomi ac mae hwn yn gam arall eto yn y gefnogaeth rydym yn ei chynnig i fusnesau.

“Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi darparu dros £2.6bn o gymorth i fusnesau ledled Cymru i’w helpu i reoli eu ffordd drwy amgylchiadau anodd.”

‘Cefnogaeth allweddol’

“Trwy’r gronfa hon, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth allweddol er mwyn sicrhau bod sefydliadau diwylliannol led-led Cymru yn goroesi, ac yn parhau yn hyfyw wrth iddynt wynebu cyfnod pellach o heriau ariannol difrifol,” meddai Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym yn benderfynol y bydd sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yn cyfrannu yn allweddol at les cymunedau led-led Cymru ac y byddant yn parhau i ddod â chysur, llawenydd a gweledigaeth o’r newydd i gymunedau wrth iddynt ymateb i heriau’r pandemig ond hefyd wrth i ni oll geisio adferiad ac ail-adeiladu ar ei ôl.

“Mae’r angen am y gefnogaeth hon wedi dod yn fater o frys amlycach fyth o ganlyniad i sgîl effeithiau’r amrywiolyn Omicron.”