Mae Ysgol Cas-gwent, lle clywodd athro’r geiriau “you will never get them speaking Welsh in Chepstow” gan gydweithiwr gwta tair blynedd yn ôl, wedi ennill gwobr Siarter Iaith yn ddiweddar.

Mae’r wobr wedi’i rhoi i’r ysgol yn sgil eu gwaith yn hyrwyddo dwyieithrwydd a phwysigrwydd y Gymraeg ar draws yr ysgol.

Bu’r Brifysgol Agored yn ymweld â’r ysgol yn ddiweddar hefyd, gyda’r bwriad o gynnal astudiaeth achos o’r newid sylweddol mewn agweddau a chanlyniadau academaidd dros y degawd diwethaf, ac mae disgwyl i’r casgliadau gael eu cyhoeddi’n fuan.

Gyda thwf sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n ymddiddori yn y Gymraeg erbyn hyn, a llwyddiant mewn arholiadau TGAU, mae’r ysgol bellach yn cynnal dosbarth Safon Uwch ar ôl degawd o fethu ei gynnig.

Addysgu Cymreictod

A hithau’n ysgol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae’r ysgol yn teimlo’i bod hi’n bwysig hyrwyddo Cymreictod ac maen nhw’n pwysleisio gwerth dwyieithrwydd.

Mae pob disgybl yn cael gwersi Cymraeg yn yr ysgol hyd at TGAU, ac mae disgyblion Blwyddyn 9 yn cael gwersi Cymreictod, sy’n mynd i’r afael ag ystrydebau am Gymru, y Cymry a’r Gymraeg.

Mae’r plant yn cael y cyfle i ddysgu am enwogion o Gymru, a sefydliadau a mudiadau Cymraeg fel yr Urdd ac S4C, diwylliant Cymraeg, ac yn cymharu’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru a Phatagonia.

Fel rhan o brosiect ‘Pontio’, mae’r ysgol hefyd yn manteisio ar fideos gan enwogion ac arwyr i hybu’r Gymraeg.

Siarter Iaith

Cafodd y Siarter Iaith ei chyflwyno gan y Senedd i holl ysgolion Cymraeg er mwyn hybu’r Gymraeg, datblygu ethos Cymraeg ac annog disgyblion i wella’u sgiliau Cymraeg.

Mae’r Siarter yn cynnig fframwaith i’w ddilyn, ac mae’r staff wedi datblygu sesiynau dwyieithrwydd a gweledigaeth ar gyfer yr ysgol.

Mae’r Gymraeg bellach yn weladwy yn yr ysgol drwy arwyddion ar y safle, sy’n cynnwys arwyddeiriau’r ysgol, sef Positifrwydd, Dyfalbarhad, Uchelgais, Chwilfrydedd a Chydraddoldeb.

Maen nhw hefyd yn dysgu’r plant am bwysigrwydd cynefin ac adeiladu amgylchfyd dwyieithog, ac mae staff yn ymweld ag ysgolion cynradd yr ysgol er mwyn cydweithio ac maen nhw’n darparu adnoddau i’r ysgolion hynny sydd bellach yn cael eu defnyddio gan Brifysgol Caerdydd hefyd fel rhan o gonsortiwm gyda Llywodraeth Cymru.

Mae staff yn holl ysgolion Cas-gwent hefyd wedi derbyn adnoddau er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw ddefnyddio rhywfaint o Gymraeg o ddydd i ddydd gyda’u disgyblion, ac maen nhw hefyd wedi cael sesiwn beilot Say Something In Welsh i’w defnyddio gyda disgyblion Blwyddyn 7, 8 a 9, ac mae’r Gymraeg eisoes i’w chlywed fwyfwy ymhlith y disgyblion o ganlyniad.

Mae gan yr ysgol Gymdeithas Gymraeg hefyd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7, ac mae bwriad i ehangu’r gymdeithas i gynnwys blynyddoedd eraill hefyd er mwyn magu perthynas â siaradwyr Cymraeg yn y gymuned.

Mae gwaith ar y gweill hefyd i hyrwyddo ap y gall siaradwyr newydd ei ddefnyddio i’w helpu nhw ar eu taith iaith.

Maen nhw eisoes yn defnyddio Duolingo, ac mae llyfrau a chylchgronau ar gael yn llyfrgell yr ysgol hefyd.

Mae’r ysgol hefyd yn dathlu diwrnodau allweddol yn y calendr Cymraeg, o Ddiwrnod Santes Dwynwen i Ddydd Gŵyl Dewi.

Gall disgyblion Blwyddyn 10 hefyd fanteisio ar sesiynau Cymraeg yn y Gweithle gyda pherchnogion busnesau lleol.

Newid agweddau

Dechreuodd Joe Woodland weithio yn yr ysgol yn 2020, yn fuan ar ôl y cyfnod clo Covid-19 cyntaf.

Bryd hynny, roedd agweddau at y Gymraeg yn hollol wahanol i’r hyn ydyn nhw erbyn hyn, meddai wrth golwg360.

“Dywedodd un cyn-gydweithiwr wrtha i, “You will never get them speaking Welsh in Chepstow”.

“Mae stori yn 1999, pan ddaeth Cymraeg Ail Iaith yn orfodol, y ceisiodd hen brifathro Cas-gwent fynd â Llywodraeth Cymru i’r llys i gael opt out. Felly rydyn ni wedi dod yn bell.

“Etifeddais i adran oedd â diffyg hunaniaeth o fewn yr ysgol, gyda disgyblion a staff wedi ymddieithrio ac roedd ganddyn nhw ddiffyg hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Roedd agwedd ‘beth yw’r pwynt?’ wedi treiddio yma.

“Yn anffodus, roedd y canlyniadau TGAU yn adlewyrchu hyn gyda dim ond 47% o ddisgyblion yn cyflawni A*-C yn 2019, yr arholiad diwethaf i blant ei sefyll.

“Roedd rhai athrawon Addysg Gorfforol yn dysgu TGAU Cymrag, gyda chefndir sylfaenol yn yr iaith.”

Roedd y flwyddyn gyntaf honno’n un anodd, ac mae Joe Woodland yn dweud eu bod nhw wedi wynebu cryn her wrth geisio newid agweddau at yr iaith.

“Ond i mi, y pethau syml oedd angen i mi eu gwneud yn dda – byddwch yn bositif, ond hefyd, rhowch broffil i’r pwnc.

“Os bydd disgyblion yn dechrau deall y pwysigrwydd ond yn ei fwynhau ar yr un pryd, rydych chi ar y trywydd iawn. Dyw e ddim yn wyddoniaeth roced!”

Cefnogaeth

Yn ôl Joe Woodland, mae’r Pennaeth Kelly Waythe ac uwch reolwyr yr ysgol yn “gefnogol iawn” i’r Gymraeg, “ac yn meddwl gyda’r un brwdfrydedd ac egni i weld yr iaith a’r adran yn ffynnu”.

“Mae llawer o’r staff yn dod o Lloegr ac mae drive gyda nhw i dyfu a defynddio’r iaith,” meddai.

“Mae athrawon gyda ni o Iwerddon a Phortiwgal hefyd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd yn eu gwersi.

“Ers nifer o flynyddoedd nawr, mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhan o’n cynllun datblygu fel ysgol.”

Fis Medi y llynedd, cafodd Angharad Jones ei phenodi’n Bennaeth Datblygiad Dwyieithrwydd yr ysgol fel rhan o’r cam nesaf tuag at ddatblygu Cymreictod yr ysgol, ar ôl iddi gwblhau cynllun sabothol Cymraeg i athrawon cynradd.

Ond symudodd i weithio yn y sector uwchradd, gan ganolbwyntio ar addysgu Cymraeg yn unig.

“Mae hi wedi bod y person perffaith i yrru’r ethos Cymraeg ar lefel ysgol gyfan,” meddai Joe Woodland.

“Heb amheuaeth, mae hyn wedi ysgogi newid yn yr ystafell ddosbarth.

“Fel fi, mae Angharad yn dod o gefndir di-Gymraeg neu ail iaith.

“Dwi’n dod o’r Coed Duon yn wreiddiol, ac es i i Ysgol Gyfun Pontllanfraith, ac aeth Angharad i Ysgol Gyfun Bedwas yng Nghaerffili.”

Fis Ebrill eleni, ymunodd Samantha Morgan o Ysgol Pen y Dre ym Merthyr Tudful ac mae’n cael ei disgrifio gan Joe Woodland fel y “darn perffaith i gwblhau’r pos yma yng Nghas-gwent”.

“Aeth Sam i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac mae hi’n dod â balans gwahanol i’r adran, dwi’n credu.”

Ond mae’r ysgol “yn dal ar y daith i ragoriaeth”, meddai.

“Ym mis Awst, cafwyd canlyniadau TGAU gorau erioed yr ysgol, gyda 73% o ddisgyblion yn cyflawni A*-C, gyda phob disgybl yn y flwyddyn yn sefyll yr arholiad Cymraeg.”