Mae dros 1,000 o frwshys dannedd a nwyddau hylendid wedi cael eu casglu gan Ŵyl Cerdd Dant Caerdydd ar gyfer elusen digartrefedd.
Ar drothwy’r ŵyl, bu cais arbennig i dros 1,500 o gystadleuwyr a channoedd o gefnogwyr yr ŵyl fynd â brwsh dannedd newydd gyda nhw i’r ŵyl, a byddan nhw’n cael eu rhoi i Ganolfan Huggard.
Eleni, roedd yr ŵyl wedi partneru â’r ganolfan sy’n cefnogi unigolion digartref sy’n cysgu ar strydoedd y brifddinas ac yn defnyddio eu gwasanaethau yng nghanol Caerdydd.
Mae’r pwyllgor gwaith wedi diolch i bawb wnaeth gyfrannu wrth ymweld â’r ŵyl, a bydd y nwyddau bellach yn cael eu trosglwyddo i’r elusen.
‘Diolch am eu haelioni’
Roedd yr ymateb i’r cais yn “syfrdanol”, yn ôl aelod Eirian Evans o’r Pwyllgor Gwaith.
“Diolch i bawb am eu cyfraniadau fydd yn cael eu trosglwyddo i Ganolfan Huggard yr wythnos yma,” meddai.
“Cafwyd diwrnod gwych yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a hoffwn ddatgan diolch diffuant i’r holl staff a’r disgyblion aeth i’r filltir eitha’ i sicrhau fod yr Ŵyl yn llwyddiant,” meddai Elen Rhys, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.
“Diolch hefyd i Gyngor Caerdydd a’r holl noddwyr am eu haelioni.
“Hebddyn nhw, fyddai dim posib llwyfannu gŵyl o’r fath.
“Yn bennaf oll, diolch i’r holl gystadleuwyr ac i’w hyfforddwyr am yr holl waith caled i sicrhau perfformiadau gwych ac felly gŵyl i’w chofio.
“Roedd hi’n fraint gweld y llwyfan a’r coleg yn llawn bwrlwm ac fe gafwyd dathliad arbennig a chyfoes o’n traddodiadau cerddorol.”
‘Mwyafrif ohonom yn ei gymryd yn ganiataol’
Ers 35 mlynedd, mae Canolfan Huggard wedi bod yn cefnogi unigolion sy’n byw ar y strydoedd neu sy’n ddigartref yng Nghaerdydd.
“Rydym yn ddiolchgar i drefnwyr a chefnogwyr yr Ŵyl Gerdd Dant am eu cefnogaeth,” meddai Richard Edwards, Prif Weithredwr yr elusen, ar ddechrau’r apêl.
“Mae gallu brwsio ein dannedd gyda brws dannedd glan yn rhywbeth mae’r mwyafrif ohonom yn ei gymryd yn ganiataol.
“Ond nid felly i bobol ddigartref ac felly dyna paham mae hi’n bwysig ein bod ni yn Huggard yn darparu nwyddau fel brwshys dannedd i bobol sy’n defnyddio ein cawodydd.”