Mae gŵyl gerddorol “yn mynd i foddi sŵn y ddinas” y penwythnos hwn, yn ôl un o’r trefnwyr…
Fe fydd Gŵyl Cerdd Dant 2021 yn cael ei chynnal yn atriwm mawr modern Coleg Caerdydd a’r Fro yng Nghaerdydd ddydd a nos Sadwrn yma.
Mae dau gôr cerdd dant eisoes yn bodoli yn y ddinas – Côr Merched Canna a Chôr Merched y Ddinas. Yn lle cystadlu yn ddau gôr unigol, mae eu harweinyddion, Delyth Medi Lloyd ac Owain Siôn, wedi mynd ati i ffurfio un côr mawr unedig, er mwyn denu rhagor o bobol y ddinas atyn nhw ar gyfer yr ŵyl.
Mae tua 130 o aelodau yn y côr newydd, Côr Merched Ystum Taf, sydd wedi bod yn ymarfer yn Ysgol Glantaf, sydd wedi’i lleoli yn Ystum Taf, neu Landaff North.
“Ry’n ni’n gobeithio y bydd yna ychydig o waddol i hwnnw, achos mae aelodau newydd fan yna sydd eisiau parhau, ac ymuno efo’r corau sydd yma’n barod,” meddai Delyth Medi Lloyd, sydd yn enw cyfarwydd iawn ym myd canu cerdd dant ac yn Llywydd y Dydd ddydd Sadwrn. “Mae hwnna wedi bod yn llwyddiant mawr.”
Côr ieuenctid yn “llwyddiant ysgubol”
Er mwyn denu rhai o bob oed at gerdd dant, bu Delyth Medi Lloyd ac Owain Siôn yn ymweld â thair ysgol uwchradd yn y brifddinas – Plas Mawr, Glantaf, a Bro Edern – a ffurfio côr cerdd dant ieuenctid. Mae tua 75 o aelodau yn y côr hwnnw, i gyd rhwng 12 a 17 oed.
“Nid yw’r rhan fwyaf o’r rheina wedi canu cerdd dant o’r blaen,” meddai Delyth Medi Lloyd. “Dw i yn bersonol wedi bod rownd yr ysgolion, bob wythnos ers canol mis Medi, i ddysgu’r gosodiad. Mae hwn yn osodiad gwahanol… fel ein bod ni ddim yn gwneud yr un gosodiad i ‘Y Milwr Bychan’, y darn gosod.
“Mae hwnna wedi bod yn brofiad. Mi wnes i ofyn iddyn nhw ‘ydych chi’n enjoio?’ ‘Enjoio mas draw’ medden nhw. Y geiriau oedd ‘dw i erioed wedi canu rhywbeth mor bwerus.’”
Yn sgîl y lladd a’r dinistr sydd yn digwydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd, mae’r criw ifanc wedi cael profiad teimladwy yn canu’r darn gosod, yn ôl Delyth Medi Lloyd.
“Mae cerdd dant yn gallu bod yn eitha’ emosiynol.
“Mae e mor amserol gyda beth sy’n digwydd yn Gaza, achos mae yn sôn am y milwr bach bach yma sy’n 10 oed sy’n colli ei fywyd. Ry’n ni’n gweld y pethe erchyll yma yn digwydd ar y sgrin ac mae’n hawdd i ni ddiffodd y teledu ac anghofio amdano fe.
“Mae yn hyfryd o beth hefyd eu bod nhw wedi cael gweledigaeth arall i bethau erchyll sy’n digwydd yn y byd. Ond hefyd, maen nhw’n moyn canu gydag arddeliad ac emosiwn. Dy’n nhw erioed wedi canu dim byd tebyg i hyn o’r blaen. Felly mae hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol.”
Fe fuodd hi ac Owain Siôn o gwmpas ysgolion cynradd y ddinas yn eu hannog i gystadlu, a chynnig gosodiad cerdd dant iddyn nhw. Mae rhyw bedair ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi derbyn yr her, yn un o tua dwsin a fydd yn cystadlu o bob cwr o Gymru. “Mae hwnna’n wych,” meddai Delyth.
Arweinydd Cyngor Caerdydd “yn gwybod beth yw cerdd dant”
Bydd yna rai yn mentro i’r ŵyl cerdd dant am y tro cyntaf erioed eleni, ac maen nhw am gael eu syfrdanu, yn ôl Delyth Medi Lloyd. Pan ofynnodd hi wrth y plant a’r bobol ifanc a oedd eu rhieni yn bwriadu dod i’r ŵyl, cafodd ymateb cadarnhaol iawn.
“Bydd pobol yn cael sioc,” meddai. “Mae yna gannoedd yn mynd i fod yma, ac mae yna lawer ohonyn nhw am fynd i fod o’r ddinas yn cystadlu. Mae yna ddiddordeb mawr.
“Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ddi-Gymraeg. Mae hwnna’n rhywbeth i ymfalchïo ynddo fe – ein bod ni wedi cyffwrdd ag adran fawr o oedolion, na fyddai yn dod yna oni bai bod y plant yma yn cystadlu. Maen nhw’n gallu gweld wedyn yn fwy beth sy’n digwydd yn yr iaith Gymraeg ac efallai cerddoriaeth ychydig yn wahanol i beth maen nhw wedi’i glywed o’r blaen.”
Mae hi’n ddiolchgar am gefnogaeth ariannol Cyngor Caerdydd i’r ŵyl – fe fu’n gymorth bod arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, yn fab i athrawes a fu’n dysgu cerdd dant yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth erstalwm.
“Roedd ei fam, Margaret, yn wych ar gerdd dant,” meddai. “Mae Huw Thomas yn gwybod beth yw cerdd dant. Mae e wedi canu cerdd dant ei hun. Mae yna gysylltiad yna nawr. Dw i’n siŵr bod y cyswllt yna wedi hybu eu haelioni nhw. Ry’n ni wedi cael cefnogaeth arbennig iawn oddi wrth ddau le – sef y Cyngor a’r Coleg ei hun. Maen nhw wedi rhoi eu holl adeilad i ni yn rhad ac am ddim.
“Ry’n ni’n teimlo fel pwyllgor gwaith ein bod ni wedi lledu’r gair am y traddodiad yn sicr, i oedolion nid dim ond i blant.”
Addo gŵyl “fodern”
Yn ôl Delyth Medi Lloyd fe fydd Gŵyl Cerdd Dant Caerdydd yn un “fodern” am sawl rheswm.
“Mae’r ŵyl ei hunan yn cael ei ffocysu yn y cyntedd mawr… yn y fan’no mae’r cystadlaethau yn mynd i fod o ran llwyfan,” meddai. “Ond mae’r nenfwd yn mynd lan i’r chweched llawr, felly mae’r acwstig am fod yn ffantastig. Mae hyd yn oed y lle ei hunan yn mynd i fod â gogwydd mwy modern.”
Wedyn mae tlws yr ŵyl yn “rhywbeth mwy modern, gwahanol,” meddai – print gwreiddiol gan yr artist Anthony Evans, sy’n cynnwys rhai llinellau o gywydd croeso’r bardd Llŷr Gwyn Lewis. Y geiriau ar y darlun yw: ‘Dewch â’ch her o gân werin,/ a’r tair rhes, geiriau i’w trin,/ a chôr mawr i chwarae mig/ â riffiau trwm y traffig,/ i forio’r iaith a’i chân frau/ yn sŵn dinas sy’n dannau.’
“Mae hi’n chwip o gywydd,” meddai Delyth Medi. “Mae honno eto yn fodern, yn sôn am ‘hen-dŵs a blŵs blêr’ y ddinas. Mae yna bethau sydd ynddi hi sy’n taro deuddeg o ran pa mor wahanol efallai yw hon yn mynd i fod.
“Mae’r cywydd croeso ei hun yn wahanol, yn sôn am sŵn y ddinas mewn ffordd arbennig iawn, a bod cerdd dant falle yn mynd i foddi sŵn y ddinas am un penwythnos.
“Gobeithio bydd pawb yn agor ei breichiau i’r newydd-deb.”
Bydd Gŵyl Cerdd Dant Caerdydd 2023 yn cael ei chynnal yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Heol Dumballs, Caerdydd, dydd Sadwrn 11 Tachwedd