Mae gwleidyddion yng Nghymru’n dechrau ymateb i ddiswyddiad Suella Braverman, Ysgrifennydd Cartref San Steffan.

Daw ei diswyddiad ddiwrnodau ar ôl iddi wneud sylwadau sarhaus am brotestwyr o blaid Palesteina.

Dywedodd fod yna “ymateb chwyrn” i brotestwyr asgell dde, tra bod “ciwed o blaid Palesteina yn cael eu hanwbyddu ar y cyfan”.

Cafodd yr erthygl yn dwyn y sylwadau ei chyhoeddi heb addasiadau roedd Downing Street yn awyddus i’w gwneud.

Ers i’r erthygl ddod i’r golwg, fe fu Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, dan bwysau i ddiswyddo’r Ysgrifennydd Cartref am achosi rhaniadau yn y gymdeithas.

Ond mae lle i gredu bod ei diswyddiad yn rhan o ad-drefnu ehangach ar y Cabinet.

Mae James Cleverly, sydd wedi’i benodi i’w holynu, a’r cyn-Brif Weinidog David Cameron wedi’u gweld yn cerdded i mewn i Rif 10.

Mae Cameron wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Tramor gan olynu Cleverly.

Dyma’r ail waith iddi orfod ymddiswyddo o’r swydd benodol hon – y tro cyntaf, roedd hi wedi anfon e-byst  y llywodraeth o’i chyfeiriad personol.

Ymateb yng Nghymru

“Suella wedi’i diswyddo – beth gymerodd mor hir?” oedd cwestiwn Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd wrth i’r newyddion dorri.

Ar Rishi Sunak mae’r bai, yn ôl Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac arweinydd y Blaid yn San Steffan.

“Pe na bai Rishi Sunak wedi bod mor wan ag ail-gyflogi Suella Braverman chwe niwrnod ar ôl iddi gael ei diswyddo ddiwethaf, gallai fod wedi osgoi’r anhrefn yma,” meddai.

“Roedd gan Liz Truss reddf wleidyddol well, hyd yn oed.

“Mae pobol yng Nghymru wedi diflasu â’r seicoddrama hon yn San Steffan.”

Ychwanega nad oes “arlliw o esgus atebolrwydd democrataidd” bellach.

“Mae obsesiwn y Torïaid â dal gafael ar rym y tu hwnt i barodi,” meddai.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, “mae a wnelo diswyddiad Braverman gymaint â diffyg arweiniad y Prif Weinidog â chyfnod trychinebus yr Ysgrifennydd Cartref o chwythu chwiban ci”.

“Cabinet Ceidwadol arall o anhrefn, ac atgof arall fod yna ffordd welli Gymru,” meddai.

Mae gwleidydd Llafur bellach yn galw am etholiad cyffredinol.

“Dim ots am ad-drefnu’r llywodraeth,” meddai Jo Stevens, Aelod Seneddol Canol Caerdydd.

“Yr hyn sydd ei angen ar y wlad yw etholiad cyffredinol.”