Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, gan ddweud bod angen gwneud mwy i gefnogi teuluoedd.

Mae ganddyn nhw bum cynnig sy’n “atebion diriaethol” i fynd i’r afael â’r heriau cynyddol fydd yn wynebu pobol yng Nghymru dros y gaeaf.

Daw’r alwad gan Sioned Williams, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y Blaid, sy’n dweud bod gan Gymru bwerau i weithredu’n uniongyrchol heb fawr ddim cost ychwanegol i helpu teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.

Yn ôl Sioned Williams, mae angen gweithredu gyda “brys a difrifoldeb” heb “setlo am friwsion” o Lundain.

Pum cynnig Plaid Cymru yw:

  • gweithredu’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar unwaith i fynd i’r afael â thlodi tanwydd
  • treialu teithiau bws am ddim i rai dan 16 oed
  • ymestyn prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd ar aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol
  • dechrau creu System Fuddiannau Gymreig
  • rhewi rhent y gaeaf a moratoriwm troi allan

‘Cwbl annheg’

“Mae cost yr argyfwng anghydraddoldeb sy’n wynebu aelwydydd y gaeaf hwn yn ofnadwy,” meddai Sioned Williams.

“Mae pris bwyd a thanwydd wedi gadael teuluoedd yn methu cadw dau ben llinyn ynghyd.

“Mae biliau ynni yn uwch nag erioed.

“Mae taliadau rhent a morgais yn parhau i godi.

“Mae pobol yn mynd heb hanfodion sylfaenol.

“Mae’n gwbl anheg.

“Mae Plaid Cymru’n falch o’r camau rydyn ni eisoes wedi’u cymryd i roi mwy o arian ym mhocedi pobol a helpu cyllidebau cartrefi i fynd ymhellach – gan gynnwys helpu i ddarparu prydau ysgol am ddim i blant ysgol gynradd, sicrhau gofal plant ychwanegol am ddim, a chodi’r Lwfans Cynnal Addysg o £30 i £40.

“Ond mae mwy y gall ac y mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur ei wneud i gefnogi’r rhai mewn angen.

“Mae hyn yn cynnwys gweithredu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes ar frys i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd, cefnogi awdurdodau lleol i dreialu teithiau bws am ddim i bobol ifanc, ymestyn prydau ysgol am ddim i fwy o fyfyrwyr, a gweithio tuag at System Fudd-daliadau Gymreig sy’n deg ac yn effeithlon.

“Ymhellach, mae’n rhaid i’r llywodraeth weithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r argyfwng tai drwy gyhoeddi rhewi rhenti yn ystod y gaeaf ac ailgyflwyno moratoriwm troi allan i rentwyr preifat.

“Mae tai fforddiadwy a chynaliadwy yn hanfodol i liniaru’r gwaethaf o gost argyfwng anghydraddoldeb.

“Mae’r rhain i gyd yn atebion diriaethol a fydd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau enbyd a wynebir gan ein cymunedau.

“Rhaid i Lafur gamu i’r adwy, defnyddio’r pwerau sydd gan Gymru a mynd i’r afael â’r argyfwng gyda’r brys a’r difrifoldeb y mae’n ei haeddu – yn hytrach na setlo am friwsion gan y Ceidwadwyr yn Llundain.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro dros fuddiannau gorau ein cymunedau yn ystod yr hyn a fydd yn aeaf anodd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn parhau i wneud popeth allwn ni i gefnogi pobol drwy’r argyfwng costau byw drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu i’r rheiny sydd ei angen fwyaf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn ystod 2022-23 a 2023-24, roedd y gefnogaeth hon yn werth mwy na £3.3bn.

“Mae’n hanfodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd camau i warchod incwm aelwydydd ac yn sicrhau bod pobol yn gallu talu eu costau hanfodol.

“Cyn Cyllideb yr Hydref, rydym yn parhau i bwyso ar San Steffan i gynyddu cefnogaeth.”