Mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn annog pobol i adrodd am eu pryderon am gam-drin plant, gan beidio ofni y gallen nhw fod yn anghywir.

Daw hyn wrth i ymgyrch genedlaethol newydd gael ei lansio ar ddechrau’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol.

Mae’r ymgyrch yn annog unrhyw un sy’n poeni am blentyn neu berson ifanc yn eu teulu neu eu cymuned i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eu hardal neu i ffonio 101.

Mae’n defnyddio gwersi gaiff eu dysgu drwy ymarfer, o ran pryd a sut i roi gwybod am bryderon diogelu.

‘Gwneud yr alwad’

Mae’r ymgyrch, sy’n dwyn yr enw ‘Gwneud yr Alwad’, yn tynnu sylw at rai o’r arwyddion cyffredin sy’n dangos y gall fod rhywbeth sy’n peri gofid yn digwydd ym mywyd plentyn.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • newidiadau yn ymddygiad neu gymeriad plentyn heb reswm
  • gwybodaeth am faterion oedolion sy’n amhriodol ar gyfer ei oedran
  • tuedd i redeg i ffwrdd neu fynd ar goll

Dydy’r arwyddion hyn ddim yn golygu bod plentyn yn cael ei niweidio o reidrwydd, ond bydd unrhyw wybodaeth yn helpu gweithwyr proffesiynol i asesu’r sefyllfa.

“Gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr o ran cadw plant yn ddiogel drwy roi gwybod i’r bobol iawn os ydych chi’n meddwl bod angen help ar rywun,” meddai Julie Morgan.

“Rydyn ni’n gwybod y gall fod pethau sy’n rhwystro pobol rhag rhoi gwybod am eu pryderon.

“Mae’n bosibl y byddai pobol yn anfodlon rhoi gwybod am eu hamheuon bod plentyn yn cael ei gam-drin am eu bod yn ofni eu bod yn anghywir.

“Efallai bod pobol eraill yn poeni y gallai hynny wneud pethau’n waeth i’r plentyn.

“Ond rwy’n annog pobol i wneud yr alwad os ydyn nhw’n poeni.

“Paid ag ofni bod yn anghywir, beth os wyt ti’n iawn?

“Mae modd rhoi gwybod am bryderon yn ddienw.”

Seminar a chynhadledd

Bydd y Dirprwy Weinidog yn siarad yn Seminar y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a Chynhadledd Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro yn ddiweddarach yr wythnos hon.

“Rydyn ni wir yn croesawu’r fenter hon i geisio gwella hyder pobol i godi llais a rhannu unrhyw wybodaeth y gallai fod ganddyn nhw am gam-drin plant yng Nghymru,” meddai Lance Carver, cadeirydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro, sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i Fro Morgannwg.