Daeth cannoedd o fyfyrwyr Prifysgol Bangor ynghyd i wrando ar ddarlith gan Steve Backshall yn ddiweddar.

Fe wnaeth y naturiaethwr a’r fforiwr roi sgwrs am gadwraeth bywyd gwyllt yn y brifysgol ar ôl perfformio yn ei sioe theatr, Ocean, yn Venue Cymru yn Llandudno.

Mae’r seren deledu, sydd wedi ennill gwobr BAFTA ac yn gyfrifol am raglenni fel Deadly 60 ac Expedition, yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd y sgwrs eang gan Steve Backshall yn ymdrin â phopeth o wleidyddiaeth a photsio i ddatgoedwigo a chadwraeth siarcod.

“Mi wnaethoch chi benderfyniad gorau’ch bywydau’n dod i Brifysgol Bangor, ac rydw i eisiau i bawb ohonoch wneud yn fawr o hynny, ei drysori, a’i ddefnyddio cystal ag y gallwch,” meddai Steve Backshall wrth siarad â myfyrwyr yn y digwyddiad.

“Ar garreg eich drws mae yna ryfeddodau naturiol nad oes gan bron neb arall yn y wlad sydd yn y brifysgol.

“Felly cofiwch fanteisio arnynt i’w llawn botensial.”

‘Braint’

Roedd Dr Chrisitan Dunn o Brifysgol Bangor yn rhan o’r sgwrs ym Mangor hefyd, a dywed ei bod hi’n “fraint” sgwrsio â Steve Backshall.

“Tyfodd llawer o’n myfyrwyr i fyny yn gwylio Steve ar y teledu a fo a’u hysbrydolodd i astudio’r gwyddorau naturiol – mae’n wych gweld faint mae’n ei olygu iddyn nhw cael cyfarfod ag o,” meddai.

“Roedd yn fraint wirioneddol sgwrsio â fo ar y llwyfan ac yntau mor wybodus a phrofiadol yn y maes – mae hefyd yn ddyn gwirioneddol wych a synnwyr digrifwch gwych ganddo!”

“Mae bob amser yn bleser croesawu Steve Backshall i Fangor – mae’n naturiaethwr mor wybodus ac yn anturiaethwr profiadol,” ychwanega’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.

“Rydym yn ffodus iawn bod Steve yn un o’n darlithwyr er anrhydedd, er nad yw’n syndod ei fod mor hoff o Brifysgol Bangor o ystyried yr enw da sydd gennym am addysgu ac ymchwil i’r gwyddorau naturiol.”