Anders Henricksson – dyna chi enw â gafael iddo! Pwy yw Anders Henricksson? Athro Hanes ydyw yng Ngholeg Shepherd, Gorllewin Virginia. Casglodd Henricksson, i gyfrol fach denau, hanes y byd fel y caiff yr hanes hwnnw ei gofnodi mewn atebion i gwestiynau arholiad gan fyfyrwyr: Non Campus Mentis (Hardie Grant, 2002).
Wrth bori trwy’r llyfr, gwelir ffeithiau megis:
“The three-age system, refers to the prehistorical and historical period identified by tool manufacture and use, of Stoned Age, Bronze Age and Iron Age. During the Dark Ages it was mostly dark…”
- Yn y flwyddyn 1492, goresgynnodd Ferdinand ac Isabella Granola ddarn o Sbaen gaiff ei adnabod bellach fel Mecsico.
- Arf trais a gorthrwm Hitler oedd y Gazpacho.
- Roedd Stalin, Roosevelt, Churchill a Truman yn cael eu hadnabod fel ‘the Big Three’.
- Mae eglwysi Gothig yn cael eu cynnal gan ‘flying buttocks‘.
- Louis Armstrong oedd y dyn cyntaf ar y lleuad.
- Tachwedd 9, 1989, syrthiodd y Berlin Mall.
- Bu Nelson Mandela ar flaen y gad yn erbyn ‘Apart Hide’.
- Mae un myfyriwr yn ein rhybuddio rhag peryglon “taking anything for granite“. Mae ganddo bwynt o bwys mawr wrth gwrs!
Bwriad Anders Henricksson, meddai, yw amlygu’r ffaith nad yw ein stôr o wybodaeth gyffredinol mor gyffredinol ag y tybiwn. Mae stôr eang o wybodaeth yn bwysig, mae gwybod ffeithiau’n bwysig.
Er nad oes gan Anders Henricksson, yn naturiol ddigon, ddim i’w ddweud yn uniongyrchol am grefydd yng Nghymru, fe ddywed rywbeth wrthym yn anuniongyrchol am grefydd. Mae crefydd, democratiaeth, cenedlgarwch yn dibynnu ar bobol yn gwybod, yn deall.
Caiff cenedlgarwch, democratiaeth a chrefydd eu hadeiladu ar yr hyn mae pobol yn ei wybod a’i ddeall. Heb y gwybod a’r deall, nid yw ymresymu – ac felly penderfynu – yn bosibl.
Sôn am yr Unol Daleithiau mae Henricksson, ond mae’r gwendid gaiff ei amlygu ganddo yn amlwg hefyd yma Nghymru. Mae’r stôr o wybodaeth gyffredinol yn lleihau, ac fe ddylai hynny fod yn ofid calon i bawb ohonom. Heb fod gennym stôr o wybodaeth yn gyffredin, bydd yn rhaid cyhoeddi newyddion y dydd mewn ffordd gwbl arwynebol.
Heb fod gennym stôr o wybodaeth, bas fydd ein crefydda, ein gwleidydda, ein cenedlgarwch – o raid. Heb y stôr hwn o wybodaeth gyffredin, caiff heddwch, gwarineb a gwirionedd eu peryglu, a gwelir ein gwareiddiad yn suddo i’r llaid.
Wn i ddim amdanoch chi, ond buasai’n well gen i chwerthin am rywbeth arall!