Trwy edrych ar amodau gwaith y gorffennol, rydan ni yn sylweddoli pa mor lwcus ydan ni heddiw…

Dros y deunaw mlynedd ddiwethaf mae dros bedair miliwn o bobol wedi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu am hanes diwydiannol y wlad.

Roedd yr amgueddfa yn Abertawe’n “dod i oed” ganol Hydref, ac fe wnaethon nhw lwyddo i groesi’r trothwy o bedair miliwn o ymwelwyr ychydig fisoedd ynghynt.